Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 23/06/2022 - Y Cyngor (eitem 7)

7 ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD 2021/22 pdf eicon PDF 112 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r adroddiad fel adlewyrchiad cywir, cytbwys a chlir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2021/22, a’i fabwysiadu.

 

Cofnod:

 

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2021/22 fel darlun clir, cytbwys a chywir o berfformiad y Cyngor yn ystod 2021/22.

 

Yn ystod ei gyflwyniad, cyfeiriodd yr Arweinydd at lwyddiannau megis datblygu Cynllun Adfywio, adeiladu Ysgol y Garnedd newydd a mabwysiadu Cynllun Newid Hinsawdd.  Cyfeiriodd hefyd at lefydd i wella, megis y methiant i gyfarch y cwestiwn addysg ôl-16 yn Arfon, ond roedd yn hyderu’n fawr y byddai hynny’n flaenoriaeth yn y blynyddoedd nesaf yng Nghynllun newydd y Cyngor.  Nododd hefyd y bu oedi yn Nalgylch Cricieth ar ddatblygiad ysgol newydd oherwydd gorfod cynnal archwiliad archeolegol.

 

Yna cyfeiriodd yr Arweinydd at y crynodeb o waith dydd i ddydd y gwasanaethau ar ddiwedd yr adroddiad, gan ddiolch i swyddogion y Gwasanaeth Cynllunio am eu gwaith gwych yn paratoi ymchwil a datrysiadau yn y maes ail-gartrefi.  Nododd hefyd, gan fod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn dod i ben, bod angen ail edrych ar y trefniadau cydweithio, ac eglurodd, yn sgil trafodaethau rhwng swyddogion cynllunio Gwynedd a Môn, y daethpwyd i’r casgliad y dylid argymell bwrw ymlaen gyda phroses i ddirwyn y trefniant presennol i ben, a hynny o ganlyniad i’r newidiadau i’r cyd-destun polisi cynllunio cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ers sefydlu’r trefniant cydweithio yn 2001.  Eglurodd ymhellach y byddai’r ddau gyngor yn parhau i gydweithio’n agos gyda threfniadau monitro’r hen Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, ynghyd ag unrhyw gyfleoedd eraill fyddai’n amlygu eu hunain.  Byddai’r mater yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Gwynedd a Phwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn ar 19 Gorffennaf, a phetai’r ddau gorff yn cydsynio, byddai’r ddwy sir yn llunio eu Cynllun Datblygu Lleol newydd ar wahân.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Gan gyfeirio at uchafbwyntiau’r flwyddyn ar dudalen 16 o’r rhaglen, holwyd sut roedd perfformiad y Cyngor o ran ailgylchu, ailddefnyddio neu gompostio gwastraff cartrefi yn cymharu â’r targed, ac yn arbennig targed tirlenwi Llywodraeth Cymru.  Mewn ymateb, nodwyd bod perfformiad Gwynedd dros 64% ar hyn o bryd, o gymharu â’r targed statudol o 70% erbyn Mawrth 2025.  Gwelwyd llithriad, o bosib’, dros y cyfnod Cofid yn y gwastraff gweddilliol sy’n cael ei gynhyrchu, ac roedd angen atgoffa’r trigolion am y gwasanaeth casglu bwyd ac ailgylchu.  Ymhellach na hynny, byddai’n rhaid edrych ar raglen waith i symud yr agenda er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed statudol.  O safbwynt tirlenwi, eglurwyd nad oedd unrhyw wastraff yn mynd i dirlenwi bellach a bod yr holl wastraff gweddilliol yn cael ei losgi ym Mharc Adfer, y Fflint fel rhan o bartneriaeth ar y cyd rhwng cynghorau’r Gogledd.

·         Gan gyfeirio at y sylw at dudalen 19 o’r rhaglen bod yr argyfwng costau byw “wedi gorfodi’r Cyngor i ddargyfeirio adnoddau ac addasu gan ymrwymo i waith a phrosiectau newydd”, holwyd a oedd ein cyllideb yn ddigon cadarn i wynebu’r heriau hyn, neu a fyddai’n rhaid ail-edrych ar y mater.  Holwyd hefyd,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7