Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 23/06/2022 - Y Cyngor (eitem 10)

10 ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PENNAETH GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH 2021/22 pdf eicon PDF 623 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth ei adroddiad blynyddol ar ran y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth yng nghyswllt cefnogaeth i aelodau.  Diolchodd y Pennaeth i Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth yn ystod cyfnod yr adroddiad, y Cynghorydd Anne Lloyd Jones, aelodau’r pwyllgor a’r swyddogion o fewn y gwasanaeth sy’n rhoi’r gefnogaeth o ddydd i ddydd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Holwyd a fyddai’n bosib’ trefnu hyfforddiant i’r aelodau ar sut i ddefnyddio’r Fewnrwyd Aelodau.  Mewn ymateb, cadarnhawyd y byddai hynny’n bosib’, a nodwyd bod swyddogion TG ar gael i ddarparu cymorth o ddydd i ddydd i’r aelodau hefyd.

·         Mewn ymateb i sylw bod Cyngor Gwynedd wedi bod yn araf yn cyhoeddi canlyniadau’r etholiadau diweddar, nodwyd bod y swyddogion yn ymwybodol bod peth oedi wedi bod gyda rhai canlyniadau, ac yn ymwybodol beth sydd angen ei roi mewn lle er sicrhau bod yr holl ganlyniadau yn ymddangos yn amserol yn y dyfodol.

·         Mynegwyd anfodlonrwydd bod dyddiadau cyfarfodydd wedi newid ers i’r Cyngor fabwysiadu calendr pwyllgorau 2022/23 yn ei gyfarfod ym mis Mawrth.  Mewn ymateb, ymddiheurwyd am unrhyw anhwylustod roedd hyn wedi’i achosi i’r aelodau, ond eglurwyd bod dyddiad y cyfarfod hwn o’r Cyngor wedi ei symud ymlaen wythnos am resymau yn ymwneud â chynllunio busnes y Cyngor, a bod hynny wedi’i rannu yn y Grŵp Busnes yn syth ar ôl yr etholiadau.

·         Diolchwyd i’r Gwasanaeth Democratiaeth am gynnal cyfundrefn bwyllgorau’r Cyngor yn ystod y cyfnod Cofid tra roedd pawb yn gweithio o gartref.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.