10 ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PENNAETH GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH 2021/22 PDF 623 KB
Cyflwyno adroddiad
y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth ei adroddiad blynyddol ar ran y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth yng
nghyswllt cefnogaeth i aelodau. Diolchodd
y Pennaeth i Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth yn ystod cyfnod yr
adroddiad, y Cynghorydd Anne Lloyd Jones, aelodau’r pwyllgor a’r swyddogion o
fewn y gwasanaeth sy’n rhoi’r gefnogaeth o ddydd i ddydd.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau
unigol:-
·
Holwyd
a fyddai’n bosib’ trefnu hyfforddiant i’r aelodau ar sut i ddefnyddio’r
Fewnrwyd Aelodau. Mewn ymateb,
cadarnhawyd y byddai hynny’n bosib’, a nodwyd bod swyddogion TG ar gael i
ddarparu cymorth o ddydd i ddydd i’r aelodau hefyd.
·
Mewn ymateb i sylw bod Cyngor Gwynedd wedi bod yn
araf yn cyhoeddi canlyniadau’r etholiadau diweddar, nodwyd bod y swyddogion yn
ymwybodol bod peth oedi wedi bod gyda rhai canlyniadau, ac yn ymwybodol beth
sydd angen ei roi mewn lle er sicrhau bod yr holl ganlyniadau yn ymddangos yn
amserol yn y dyfodol.
·
Mynegwyd anfodlonrwydd bod dyddiadau cyfarfodydd
wedi newid ers i’r Cyngor fabwysiadu calendr pwyllgorau 2022/23 yn ei gyfarfod
ym mis Mawrth. Mewn ymateb, ymddiheurwyd
am unrhyw anhwylustod roedd hyn wedi’i achosi i’r aelodau, ond eglurwyd bod
dyddiad y cyfarfod hwn o’r Cyngor wedi ei symud ymlaen wythnos am resymau yn
ymwneud â chynllunio busnes y Cyngor, a bod hynny wedi’i rannu yn y Grŵp Busnes
yn syth ar ôl yr etholiadau.
·
Diolchwyd i’r Gwasanaeth Democratiaeth am gynnal
cyfundrefn bwyllgorau’r Cyngor yn ystod y cyfnod Cofid tra roedd pawb yn
gweithio o gartref.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.