14 Cais Rhif C21/1174/11/LL Bae Hirael, Bangor, LL57 1AD PDF 364 KB
Adeiladu
amddiffynfa llifogydd yn ardal Hirael o Fangor i gynnwys:-
1.
Gwelliannau i'r llwybr beicio
2.
Adeiladu wal concrid newydd i ddisodli'r caergawellau presennol
gan ddilyn ôl-troed y wal mor presennol.
3.
Ail-adeiladu llithrfa.
4.
Codi arglawdd bridd.
5.
Gosod 2 giât llifogydd.
6.
Codi uchder rhan o ffordd
Lon Glandŵr ynghyd a chodi wal goncrid newydd.
AELODAU
LLEOL: Cynghorydd Medwyn Hughes a’r Cynghorydd Huw Wyn Jones
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn
ddarostyngedig i’r amodau isod:-
Cofnod:
Adeiladu
amddiffynfa llifogydd yn ardal Hirael o Fangor i gynnwys:-
1. Gwelliannau i'r llwybr beicio.
2. Adeiladu wal concrid newydd i
ddisodli'r caergewyll presennol gan ddilyn ôl-troed y wal mor bresennol.
3. Ail-adeiladu llithrfa.
4. Codi arglawdd pridd.
5. Gosod 2 giât llifogydd.
6. Codi uchder rhan o ffordd Lon Glandŵr ynghyd a chodi wal
goncrid newydd.
a)
Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod sawl elfen i’r cais
llawn yma ar gyfer adeiladu amddiffynfa llifogydd 550m o hyd yn ardal Hirael ar
gyrion arfordirol gogleddol Bangor a bod y cais yn cael ei gyflwyno gan fod
Hirael, yn hanesyddol, wedi bod mewn perygl o lifogydd o sawl ffynhonnell.
Nodwyd bod yr amddiffynfeydd arfordirol presennol yn gyfyngedig a’r unig
amddiffynfeydd ffurfiol yn yr ardal yw’r morglawdd presennol o gaergewyll
dirywiedig. Nid oes unrhyw strwythurau
eraill sy’n rheoli llifogydd arfordirol o fewn yr ardal. O dan Gynllun Rheoli
Traethlin 2 mae Hirael yn newid mewn polisi o “gadw’r llinell” (Hold the Line)
yn Epoch 1 a 2 i “adlinio rheoledig” (Managed Realignment) erbyn Epoch 3.
Ystyriwyd bod egwyddor y bwriad o ganiatáu’r cais yn dderbyniol ar sail
ei effaith ar fwynderau gweledol, preswyl, bioamrywiaeth yn lleol a
chenedlaethol ynghyd a materion trafnidiaeth ac y byddai adeiladu
amddiffynfa llifogydd yn ardal Hirael o’r ddinas yn ymateb yn bositif i’r
gwendidau strwythurol sydd wedi eu hadnabod yn yr amddiffynfa bresennol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Ei fod yn croesawu’r cynllun
·
Pryder gan rai trigolion o golli golygfa, ond yn welliant
sylweddol o ran diogelwch i eraill
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
PENDERFYNWYD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r amodau isod:-
1. 5 mlynedd.
2. Yn unol â’r cynlluniau/manylion a
gyflwynwyd gyda’r cais
3. Cyflwyno Cynllun Rheoli Amgylcheddol
Adeiladu i gynnwys mesurau lleihau sŵn, llwch a dirgryniad i’w gytuno
gyda’r ACLL.
4. Cyflwyno Asesiad Risg Bioddiogelwch.
5. Cydymffurfio gydag argymhellion
Asesiad Rheoliadau Cynefin diwygiedig.
6. Cyflwyno Cynllun Datganiad
Dull/Asesiad Risg er mwyn diogelu asedau Dwr Cymru sy’n croesi’r safle.
7. Cyflwyno manylion Rhaglen
Archeolegol i’w ddilyn gan adroddiad o’r gwaith archeolegol a garwyd allan ar y
safle.
8. Cyfyngu oriau gweithio sy’n cynnwys
rhedeg peiriannau a mewnforio deunyddiau rhwng 08:00 i 18:00 Llun i Gwener a
dim o gwbl ar ddydd Sadwrn, Sul a Gwyliau Banc oni bai bod ymestyn yr oriau
gweithio hyn wedi ei ganiatáu’n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.
9. Angen gwarchod llwybr cyhoeddus rhif
28 a 29 Bangor yn ystod ac ar ôl cwblhau’r datblygiad.