12 STRATEGAETH GWEINYDDU PENSIYNAU PDF 637 KB
I ystyried yr
adroddiad a chymeradwyo’r Strategaeth Gweinyddu Pensiynau
Penderfyniad:
Derbyn a chymeradwyo’r
Strategaeth Gweinyddu Pensiynau
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau oedd eto yn ymateb i ofynion Adolygiad
Llywodraethu Da i bob awdurdod gweinyddu gynhyrchu a chyhoeddi strategaeth
weinyddol sydd yn hygyrch ac yn cyflawni gofynion y Rheoliadau CPLlL.
Eglurwyd, fel rhan
o baratoi ar gyfer y prosiect llywodraethu da, rhannwyd copi drafft o'r
strategaeth gyda Hymans Robertson er mwyn derbyn
adborth. Cadarnhawyd bod y Strategaeth
Weinyddu yn cyffwrdd â’r meysydd priodol ac roeddynt o'r farn ei bod yn
bodloni'r holl ofynion cyfredol a'r gofynion ychwanegol hynny sy'n deillio o'r
adolygiad Llywodraethu Da. Ategwyd bod copi drafft o’r strategaeth hefyd wedi
ei chyflwyno i’r Bwrdd Pensiwn (17/3/22) a bod argymhellion y Bwrdd wedi eu
cynnwys yn y fersiwn derfynol. Yn dilyn cyflwyniad i’r Bwrdd rhannwyd copi o’r
strategaeth hefyd gyda chyflogwyr y gronfa ond ni dderbyniwyd sylwadau nac
adborth.
Ategwyd y byddai’r
strategaeth yn cael ei hadolygu yn flynyddol.
Diolchwyd am yr
adroddiad
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod y strategaeth yn ymateb yn dda i ofynion Rheolaidau CPLlL
·
Bydd y strategaeth o fudd i’r Uned Pensiynau - yn
gosod amserlen, nodi cyfrifoldebau a gweithdrefnau ar gyfer cyfathrebu
·
Bod y strategaeth yn un manwl
·
Yn ddogfen i’w chroesawu
PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r Strategaeth
Gweinyddu Pensiynau