15 CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL / PANEL HEDDLU A THROSEDD GOGLEDD CYMRU PDF 500 KB
Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1.
Mabwysiadu’r
dyraniad seddau fel a nodir yn Atodiad A i’r adroddiad, gan ddirprwyo’r hawl
i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail
y cydbwysedd gwleidyddol, ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol.
2.
Enwebu’r
Cynghorwyr Edgar Wyn Owen (Grŵp Plaid Cymru) a John Pughe (Grŵp
Annibynnol) i gynrychioli’r Cyngor ar y Panel Heddlu a Throsedd am dymor y
Cyngor hwn yn unol â’r dyraniad a roddwyd i Wynedd.
Cofnod:
Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth adroddiad:-
·
ar adolygiad o gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor yn
sgil ffurfio grŵp gwleidyddol newydd, sef Grŵp Llafur/Rhyddfrydol,
dan arweiniad y Cynghorydd Stephen Churchman;
·
yn gwahodd y Cyngor i enwebu un aelod o Grŵp
Plaid Cymru ac un aelod o’r Grŵp Annibynnol i i gynrychioli’r Cyngor
ar y Panel Heddlu a Throsedd am dymor y Cyngor hwn yn unol â’r dyraniad a
roddwyd i Wynedd.
PENDERFYNWYD