Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 14/06/2022 - Y Cabinet (eitem 6)

6 ADRODDIAD PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2021/22 pdf eicon PDF 114 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2021/22 ac argymhellwyd i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu yn ei gyfarfod nesaf ar y 23 Mehefin 2022.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfrig Siencyn.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2021/22 ac argymhellwyd i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu yn ei gyfarfod nesaf ar y 23 Mehefin 2022. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn adlewyrchu ar waith y Cyngor dros y flwyddyn aeth heibio. Eglurwyd ei fod yn adroddiad diddorol dros ben sydd yn dangos rhychwant gwaith sydd wedi ei wneud ynghyd â camau i gynnal perfformiad y Cyngor i’r dyfodol.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor fod yr adroddiad yn dangos cynnydd y Cyngor yn erbyn eu blaenoriaethau yn ystod 2021/22. Nodwyd fod yr adroddiad yn un cytbwys sydd yn rhoi sylw i waith sydd wedi gyflawni ynghyd â gwaith sydd heb ei wneud. Mynegwyd fod rhan gyntaf yr adroddiad yn adrodd ar gynnydd o ran y blaenoriaethau’r Cyngor tra fod yr ail ran yn mynd i’r afael a pherfformiad adrannau o ran eu gwaith o ddydd i ddydd.

 

Eglurwyd fod y gwaith hwn wedi ei baratoi gan yr adrannau ac wedi ei wirio gan yr Aelodau Cabinet cyfredol cyn yr etholiad. Nodwyd y bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ar y 23 Mehefin.

 

Awdur: Dewi Wyn Jones