6 ADRODDIAD PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2021/22 PDF 114 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2021/22 ac argymhellwyd
i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu yn ei gyfarfod nesaf ar y 23 Mehefin 2022.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfrig Siencyn.
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Cyngor Gwynedd 2021/22 ac argymhellwyd
i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu yn ei gyfarfod nesaf ar y 23 Mehefin 2022.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn adlewyrchu ar waith y
Cyngor dros y flwyddyn aeth heibio. Eglurwyd ei fod yn adroddiad diddorol dros
ben sydd yn dangos rhychwant gwaith sydd wedi ei wneud ynghyd â camau i gynnal
perfformiad y Cyngor i’r dyfodol.
Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor fod yr adroddiad
yn dangos cynnydd y Cyngor yn erbyn eu blaenoriaethau yn ystod 2021/22. Nodwyd
fod yr adroddiad yn un cytbwys sydd yn rhoi sylw i waith sydd wedi gyflawni
ynghyd â gwaith sydd heb ei wneud. Mynegwyd fod rhan gyntaf yr adroddiad yn
adrodd ar gynnydd o ran y blaenoriaethau’r Cyngor tra fod yr ail ran yn mynd
i’r afael a pherfformiad adrannau o ran eu gwaith o ddydd i ddydd.
Eglurwyd fod y gwaith hwn wedi ei baratoi gan yr adrannau ac wedi ei wirio
gan yr Aelodau Cabinet cyfredol cyn yr etholiad. Nodwyd y bydd yr adroddiad yn
cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ar y 23 Mehefin.
Awdur: Dewi Wyn Jones