7 CYFRIFON TERFYNOL 2021/22 - ALLDRO REFENIW PDF 302 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1.1 Nodwyd sefyllfa ariannol
derfynol adrannau’r Cyngor am 2021/22.
1.2 Cymeradwywyd y
symiau i’w parhau (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn
Atodiad 1), sef -
ADRAN |
£’000 |
Oedolion, Iechyd a Llesiant |
(69) |
Plant a Theuluoedd |
(97) |
Addysg |
(60) |
Economi a Chymuned |
(72) |
Priffyrdd a Bwrdeistrefol |
0 |
Amgylchedd |
(100) |
Ymgynghoriaeth Gwynedd |
(100) |
Tai ac Eiddo |
(100) |
Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol |
(33) |
Cyllid |
(96) |
Cefnogaeth Gorfforaethol |
(63) |
1.3 Cymeradwywyd yr argymhellion a’r
trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2) -
·
Yr Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £746k i ddiddymu ei orwariant
am y flwyddyn yn llwyr, o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yn ymwneud â’r
argyfwng eleni. Bydd hyn yn galluogi’r adran symud ymlaen i wynebu her
2022/23.
·
Er mwyn cydymffurfio â'r
Rheoliadau Ariannol, ni fydd yr adrannau canlynol yn cadw eu tanwariant uwchlaw
(£100k):
·
Adran
Amgylchedd (£91k)
·
Adran
Ymgynghoriaeth Gwynedd (£9k)
·
Adran
Tai ac Eiddo (£180)
Ceisir penderfyniad y Cabinet i neilltuo’r
cyfanswm o £280k i gronfa ar gyfer trefniadau adfer yn sgil Covid ar gyfer
cyllido'r heriau ariannol cysylltiedig fydd yn wynebu'r Cyngor.
·
Ar gyllidebau
Corfforaethol:
·
fod
(£2,183k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r
rhaglen gyfalaf
·
gyda
gweddill y tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol yn cael ei neilltuo fel a
ganlyn:
·
(£395k)
yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor
· (£3,000k) i'r Gronfa Trawsffurfio i gyllido
blaenoriaethau'r Cyngor a gwaith trawsffurfiol ei natur
·
(£1,377k)
i'r Gronfa trefniadau adfer yn sgil Covid ar gyfer cyllido'r heriau ariannol
cysylltiedig fydd yn wynebu'r Cyngor.
1.4 Cymeradwywyd y
trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 4 yn dilyn adolygiad o’r
cronfeydd, gan gynaeafu (£851k) o gronfeydd gan ddefnyddio £746k ohono i gynorthwyo’r
Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol sydd wedi gorwario yn 2021/22 a throsglwyddo'r
£105k sydd yn weddill i falansau cyffredinol y Cyngor.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas.
PENDERFYNIAD
1.1 Nodwyd sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2021/22.
1.2 Cymeradwywyd y symiau i’w parhau (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef -
ADRAN |
£’000 |
Oedolion, Iechyd a Llesiant |
(69) |
Plant a Theuluoedd |
(97) |
Addysg |
(60) |
Economi a Chymuned |
(72) |
Priffyrdd a Bwrdeistrefol |
0 |
Amgylchedd |
(100) |
Ymgynghoriaeth Gwynedd |
(100) |
Tai ac Eiddo |
(100) |
Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol |
(33) |
Cyllid |
(96) |
Cefnogaeth Gorfforaethol |
(63) |
1.3 Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2) -
· Yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £746k i ddiddymu ei orwariant am y flwyddyn yn llwyr, o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yn ymwneud â’r argyfwng eleni. Bydd hyn yn galluogi’r adran symud ymlaen i wynebu her 2022/23.
· Er mwyn cydymffurfio â'r Rheoliadau Ariannol, ni fydd yr adrannau canlynol yn cadw eu tanwariant uwchlaw (£100k):
· Adran Amgylchedd (£91k)
· Adran Ymgynghoriaeth Gwynedd (£9k)
· Adran Tai ac Eiddo (£180k)
Ceisir penderfyniad y Cabinet i neilltuo’r cyfanswm o £280k i gronfa ar gyfer trefniadau adfer yn sgil Covid ar gyfer cyllido'r heriau ariannol cysylltiedig fydd yn wynebu'r Cyngor.
· Ar gyllidebau Corfforaethol:
· fod (£2,183k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf
· gyda gweddill y tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol yn cael ei neilltuo fel a ganlyn:
· (£395k) yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor
· (£3,000k) i'r Gronfa Trawsffurfio i gyllido blaenoriaethau'r Cyngor a gwaith trawsffurfiol ei natur
· (£1,377k) i'r Gronfa trefniadau adfer yn sgil Covid ar gyfer cyllido'r heriau ariannol cysylltiedig fydd yn wynebu'r Cyngor.
1.4 Cymeradwywyd y trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 4 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd, gan gynaeafu (£851k) o gronfeydd gan ddefnyddio £746k ohono i gynorthwyo’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol sydd wedi gorwario yn 2021/22 a throsglwyddo'r £105k sydd yn weddill i falansau cyffredinol y Cyngor.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn manylu ar wariant y Cyngor yn 2021/22. Eglurwyd fod talfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau i’w gweld fel rhan o’r adroddiad ynghyd â’r symiau i’w cario ymlaen ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Tynnwyd sylw at effaith ariannol Covid19 ar y Cyngor unwaith efo gyda £17.5miliwn wedi ei hawlio o’r gronfa caledi a Furlough erbyn diwedd y flwyddyn.
Amlygwyd y prif faterion a meysydd ble fu gwahaniaeth sylweddol, yn benodol nifer o grantiau sylweddol ychwanegol yn hwyr yn y flwyddyn sydd wedi trawsnewid y sefyllfa ariannol erbyn diwedd y flwyddyn. Tynnwyd sylw at yr arian ychwanegol i Setliad Llywodraeth Leol o £2.5m, grant Pwysau Gofal Cymdeithasol o £1.9m, Cronfa Adfer Gofal Cymdeithasol o £1.5m ynghyd â Ôl Groniad Treth Cyngor o £0.9m i enwi dim ond rhai. Mynegwyd fod tanwariant i’w gweld ar draws yr holl adrannau oni bai am yr Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol sydd yn gorwario o £746mil. Eglurwyd mai’r maes Bwrdeistrefol sydd yn parhau i fod yn gorwario gyda problemau amlycaf i’w gweld yn maes casglu a gwaredu gwastraff.
Nodwyd fod gwelliant sylweddol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7
Awdur: Dewi Morgan