8 RHAGLEN GYFALAF 2021/22 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN (SEFYLLFA 31 MAWRTH 2022) PDF 334 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd
yr adroddiad ar adolygiad diwedd
y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2022) o’r rhaglen gyfalaf.
Nodwyd y gwariant o £37,054,000 ar y rhaglen gyfalaf yn ystod y flwyddyn
ariannol 2021/22, fydd yn cael ei
ddefnyddio yn y datganiadau ariannol statudol ar gyfer
2021/22.
Cymeradwywyd ariannu’r addasedig
a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad,
sef:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas.
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2022) o’r rhaglen gyfalaf.
Nodwyd y gwariant o £37,054,000 ar y rhaglen gyfalaf yn ystod y flwyddyn ariannol 2021/22, fydd yn cael ei ddefnyddio yn y datganiadau ariannol statudol ar gyfer 2021/22.
Cymeradwywyd ariannu’r addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn cyflwyno’r rhaglen gyfalaf ddiwygiedig a cymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Mynegwyd mai y prif gasgliadau yw fod y Cyngor wedi llwyddo i wario £37.1m yn 2021/22 ar gynlluniau cyfalaf, gyda 81% ohono wedi’i ariannu drwy grantiau penodol.
Eglurwyd fod effaith argyfwng Covid19 wedi parhau ar y
rhaglen gyfalaf. Nodwyd yn ychwanegol i’r £31.2m adroddwyd arno yn adolygiadau
blaenorol 2021/22, fod £26.8m pellach o wariant arfaethedig wedi’i
ail-broffilio i 2022/23 a tynnwyd sylw at prif gynlluniau a oedd yn cynnwys:
·
£7.6
miliwn Cynlluniau Strategaeth Tai a Digartrefedd
· £7.2 miliwn Cynlluniau Atal Llifogydd a Traenio Tir
· £6.5 miliwn Cynlluniau Ysgolion Ganrif 21 ac Eraill
· £4.0 miliwn Grantiau Newydd Llywodraeth Cymru yn y maes Tai (adnodd a ddisodlir yn llithro)
· £3.2 miliwn Grant Cyfalaf Cyffredinol Ychwanegol 21/22 (derbyniwyd yn chwarter olaf y flwyddyn gyda’r hawl i’w lithro i 22/23).
Tynnwyd sylw at grantiau ychwanegol a lwyddodd y Cyngor i’w denu ers yr adolygiad diwethaf, a oedd yn cynnwys:
· £3.2 miliwn - Grant Cyfalaf Cyffredinol Ychwanegol 21/22 – caniatâd llithro i 22/23.
· £3.1 miliwn – Grantiau o’r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladu sy’n caniatáu disodli ariannu cyfredol i’w wario yn 22/23.
· £1.3 miliwn – Grant Cronfa Gofal Canolraddol – addasiadau sefydliadau oedolion a hwyluso gweithio ar y cyd ac asiantaethau eraill yn y maes gofal.
· £1.1 miliwn – Grant Cyfalaf Prydau Ysgol am Ddim – caniatáu disodli ariannu cyfredol i’w wario yn 22/23 ar addasiadau i geginau ysgolion.
Ychwanegodd y Uwch Reolwr Cyllid fod effaith amlwg ar grantiau gyda nifer uchel o grantiau yn llithro, ac amlygwyd fod hyn yn rhoi effaith ar gronfeydd y Cyngor.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Eglurwyd fod yr adroddiad hwn yn un technegol ac fod cynlluniau pendant ar gyfer y cynlluniau sydd wedi llithio. Mynegwyd y bydd Cynllun Asedau’r Cyngor yn cael ei gyflwyno yn fuan a fydd yn nodi faint o arian cyfalaf fydd ar gael i’w wario dros y blynyddoedd i ddod.
¾ Nodwyd anfodlonrwydd gyda grantiau yn dod yn
hwyr yn flwyddyn, gan bwysleisio ei bod yn anodd cynllunio yn hir dymor ynghyd
a sicrhau cyllideb gytbwys.
Awdur: Dewi Morgan