Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 14/06/2022 - Y Cabinet (eitem 8)

8 RHAGLEN GYFALAF 2021/22 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN (SEFYLLFA 31 MAWRTH 2022) pdf eicon PDF 334 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2022) o’r rhaglen gyfalaf 

 

Nodwyd y gwariant o £37,054,000 ar y rhaglen gyfalaf yn ystod y flwyddyn ariannol 2021/22, fydd yn cael ei ddefnyddio yn y datganiadau ariannol statudol ar gyfer 2021/22.  

 

Cymeradwywyd ariannu’r addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef: 

  • £173,000 lleihad mewn defnydd o fenthyca 
  • £11,304,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau 
  • £94,000 lleihad mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf 
  • £426,000 lleihad mewn defnydd o gyfraniadau refeniw 
  • Dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf 
  • £1,003,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2022) o’r rhaglen gyfalaf.   

 

Nodwyd y gwariant o £37,054,000 ar y rhaglen gyfalaf yn ystod y flwyddyn ariannol 2021/22, fydd yn cael ei ddefnyddio yn y datganiadau ariannol statudol ar gyfer 2021/22.   

 

Cymeradwywyd ariannu’r addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:  

  • £173,000 lleihad mewn defnydd o fenthyca  
  • £11,304,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau  
  • £94,000 lleihad mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf  
  • £426,000 lleihad mewn defnydd o gyfraniadau refeniw  
  • Dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf  
  • £1,003,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn cyflwyno’r rhaglen gyfalaf ddiwygiedig a cymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Mynegwyd mai y prif gasgliadau yw fod y Cyngor wedi llwyddo i wario £37.1m yn 2021/22 ar gynlluniau cyfalaf, gyda 81% ohono wedi’i ariannu drwy grantiau penodol.

 

Eglurwyd fod effaith argyfwng Covid19 wedi parhau ar y rhaglen gyfalaf. Nodwyd yn ychwanegol i’r £31.2m adroddwyd arno yn adolygiadau blaenorol 2021/22, fod £26.8m pellach o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio i 2022/23 a tynnwyd sylw at prif gynlluniau a oedd yn cynnwys:

·         £7.6 miliwn Cynlluniau Strategaeth Tai a Digartrefedd

·         £7.2 miliwn Cynlluniau Atal Llifogydd a Traenio Tir

·         £6.5 miliwn Cynlluniau Ysgolion Ganrif 21 ac Eraill

·         £4.0 miliwn Grantiau Newydd Llywodraeth Cymru yn y maes Tai (adnodd a ddisodlir yn llithro)

·         £3.2 miliwn Grant Cyfalaf Cyffredinol Ychwanegol 21/22 (derbyniwyd yn chwarter olaf y flwyddyn gyda’r hawl i’w lithro i 22/23).

 

Tynnwyd sylw at grantiau ychwanegol a lwyddodd y Cyngor i’w denu ers yr adolygiad diwethaf, a oedd yn cynnwys:

·         £3.2 miliwn - Grant Cyfalaf Cyffredinol Ychwanegol 21/22 – caniatâd llithro i 22/23.

·         £3.1 miliwn – Grantiau o’r Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladu sy’n caniatáu disodli ariannu cyfredol i’w wario yn 22/23.

·         £1.3 miliwn – Grant Cronfa Gofal Canolraddol – addasiadau sefydliadau oedolion a hwyluso gweithio ar y cyd ac asiantaethau eraill yn y maes gofal.

·         £1.1 miliwn – Grant Cyfalaf Prydau Ysgol am Ddim – caniatáu disodli ariannu cyfredol i’w wario yn  22/23 ar addasiadau i geginau ysgolion.

 

Ychwanegodd y Uwch Reolwr Cyllid fod effaith amlwg ar grantiau gyda nifer uchel o grantiau yn llithro, ac amlygwyd fod hyn yn rhoi effaith ar gronfeydd y Cyngor.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Eglurwyd fod yr adroddiad hwn yn un technegol ac fod cynlluniau pendant ar gyfer y cynlluniau sydd wedi llithio. Mynegwyd y bydd Cynllun Asedau’r Cyngor yn cael ei gyflwyno yn fuan a fydd yn nodi faint o arian cyfalaf fydd ar gael i’w wario dros y blynyddoedd i ddod.

¾     Nodwyd anfodlonrwydd gyda grantiau yn dod yn hwyr yn flwyddyn, gan bwysleisio ei bod yn anodd cynllunio yn hir dymor ynghyd a sicrhau cyllideb gytbwys.

 

Awdur: Dewi Morgan