7 MATERION CYFANSODDIADOL PDF 327 KB
Dafydd L Edwards, Swyddog Arweiniol Prosiect y CBC ac Iwan Evans, Swyddog Monitro'r CBC i gyflwyno adroddiad ar faterion cyfansoddiadol y Cyd-Bwyllgor.
Penderfyniad:
1.
Cytunwyd i
sefydlu Is-Bwyllgor Cynllunio Strategol ac Is-Bwyllgor Trafnidiaeth Strategol a
chymeradwywyd yr aelodaeth a’r hawliau pleidleisio canlynol –
i)
Is-bwyllgor Cynllunio
Strategol gyda 7 aelod â phleidlais, un o bob un o'r awdurdodau cyfansoddol (6
Chyngor ac APCE).
ii)
Is-bwyllgor
Trafnidiaeth Strategol gyda 6 aelod â phleidlais, un o bob un o'r 6 Chyngor.
iii)
Aelodaeth yr
Is-bwyllgor Cynllunio Strategol i gynnwys yr aelod Cabinet perthnasol o bob
Cyngor cyfansoddol sy'n dal y portffolio ar gyfer Polisi Cynllunio, a
chynrychiolydd APCE.
iv)
Aelodaeth yr
Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol gynnwys yr aelod Cabinet perthnasol o bob
Cyngor cyfansoddol sy'n dal y portffolio ar gyfer Polisi Trafnidiaeth.
2.
Cadarnhawyd yr 22
Gorffennaf fel dyddiad nesaf y Cyd-Bwyllgor a cadarnhawyd y bydd holl
gyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor yn cael ei cynnal yn rhithiol am y tro.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Dafydd L Edwards (Swyddog Arweiniol Prosiect y Cyd-Bwyllgor).
PENDERFYNIAD
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi y penderfyniad sef i sefydlu dau is-bwyllgor ar gyfer
Cynllunio Strategol ynghyd â Thrafnidiaeth, ac i ofyn am adroddiad pellach ar
Gylch Gorchwyl a Rheolau Sefydlog yr Is-bwyllgorau i’r cyfarfod nesaf. Nodwyd yn
ogystal i ohirio sefydlu’r Is-Bwyllgorau Safonau a Llywodraeth ac Archwilio hyd
nes y bydd cadarnhad o’r gofynion statudol.
Eglurwyd fod y
darlun o ran strwythur yr Is-bwyllgorau wedi parhau yr un strwythur ers yr
adroddiad safonol a gyflwynwyd i’r chwe Cyngor a’r Parc yn ôl ym mis Rhagfyr
2021. Amlygwyd fod y strwythur yn un ar gyfer y dyfodol ac mai dim ond
penderfynu ar sefydlu dau o’r is-bwyllgorau mae’r Cyd-bwyllgor yn y cyfarfod
hwn. Mynegwyd drwy wneud hyn fod y Cyd-bwyllgor yn gosod fframwaith ar gyfer
cyflawni eu dyletswyddau cychwynnol.
Ychwanegodd y
Swyddog Monitro mai hwn yw’r tro cyntaf i’r Cyd-Bwyllgor gytuno ar y fframwaith
ar gyfer is-bwyllgorau ynghyd a’r aelodaeth.
Eglurwyd fod
sefyllfa’r Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn eitem i’w drafod yn
ystod tymor yr hydref.
Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth
¾
Diolchwyd am y gwaith a cefnogwyd y cynnig a
wnaethpwyd.
¾
Mynegwyd
cefnogaeth i’r cyfarfodydd barhau yn rhithiol ar hyn o bryd.