8 DATGANIAD POLISI TÂL 2022/23 PDF 141 KB
Geraint Owen, Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, Cyngor Gwynedd i gyflwyno datganiad polisi tâl y Cyd-Bwyllgor.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cytunwyd i fabwysiadu
datganiad polisi tâl Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2022/23.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Geraint Owen (Pennaeth Adran Cefnogaeth
Gorfforaethol, Cyngor Gwynedd).
PENDERFYNIAD
Cytunwyd i fabwysiadu datganiad polisi tâl Cyd-Bwyllgor Corfforedig y
Gogledd ar gyfer 2022/23.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn hunan eglurhaol.
Mynegwyd ei bod yn ddyletswydd i’r Cyd-Bwyllgor fod yn mabwysiadu polisi tal yn
flynyddol. Eglurwyd mai polisi tâl Cyngor Gwynedd sydd wedi’i fabwysiadu ar
gyfer cyflogi staff “Uchelgais Gogledd Cymru” ac fod adroddiad arall ar y
rhaglen yn argymell ymestyn y trefniadau presennol i Cyngor Gwynedd ddarparu
gwasanaethau cefnogol i’r Cydbwyllgor am gyfnod dros-dro, am y rheswm hyn
cynigwyd defnyddio addasiad o bolisi tâl Cyngor Gwynedd ar gyfer 2022/23.