9 STRWYTHUR Y SEFYDLIAD A STAFFIO PDF 235 KB
Dafydd L Edwards, Swyddog Arweiniol Prosiect y CBC i gyflwyno adroddiad sydd yn ymdrin ag (ail)benodi swyddogion statudol Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC), darparu gwasanaethau cefnogol craidd a'r trefniadau i gyflogi staff i ymgymryd â'r dyletswyddau Cynllunio a Thrafnidiaeth.
Penderfyniad:
Cytunwyd i ail-benodi Dafydd
Gibbard yn Brif Weithredwr y Cyd-Bwyllgor ar sail dros dro hyn nes y bydd y
swydd yn cael ei hadolygu eto.
Cytunwyd i ail-benodi Dewi
Morgan yn Brif Swyddog Cyllid a Iwan Evans yn Swyddog Morntiro a Swyddog
Priodol ar gyfer y Cyd-Bwyllgor.
Cytunwyd i barhau gyda’r
trefniadau sydd yn bodoli yn barod i Gyngor Gwynedd darparu gwasanaeth
cefnogdol i’r Cyd-Bwyllgor, o leiaf hyd at ddyddiad trosglwyddo’r Bwrdd
Uchelgais i’r Cyd-Bwyllgor, neu pan fydd Partneriaid i “GA2” y Bwrdd Uchelgais
yn cytuno i fodel amgen.
Mabwysiadwyd Amodau a Thelerau cyflogaeth Cyngor Gwynedd i
ddechau, yn wrthredol o ddyddiad yr adroddiad hwn fel ei delerau ac amodau
cyflogaeth i’r staff.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd L Edwards (Swyddog Arweiniol Prosiect
y Cyd-Bwyllgor).
PENDERFYNIAD
Cytunwyd i ail-benodi Dafydd Gibbard yn Brif Weithredwr y Cyd-Bwyllgor ar
sail dros dro hyn nes y bydd y swydd yn cael ei hadolygu eto.
Cytunwyd i ail-benodi Dewi Morgan yn Brif Swyddog Cyllid a Iwan Evans yn
Swyddog Monitro a Swyddog Priodol ar gyfer y Cyd-Bwyllgor.
Cytunwyd i barhau gyda’r trefniadau sydd yn bodoli yn barod i Gyngor
Gwynedd darparu gwasanaeth cefnogol i’r Cyd-Bwyllgor, o leiaf hyd at ddyddiad
trosglwyddo’r Bwrdd Uchelgais i’r Cyd-Bwyllgor, neu pan fydd Partneriaid i
“GA2” y Bwrdd Uchelgais yn cytuno i fodel amgen.
Mabwysiadwyd Amodau a Thelerau cyflogaeth Cyngor Gwynedd i ddechau, yn
weithredol o ddyddiad yr adroddiad hwn fel ei delerau ac amodau cyflogaeth i’r staff.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi er fod yr adroddiad yn argymell
penderfynu ar dair swydd Cynllunio ynghyd â dwy swydd Trafnidiaeth eglurwyd fod
angen trafodaeth pellach cyn gwneud penderfyniad ar y swyddi yma ac felly
tynnwyd rhan berthnasol o’r argymhellion yn ôl i’w trafod y cyfarfod nesaf.
O ganlyniad nodwyd mai gofyn mae’r adroddiad i ail benodi swyddogion
Gwynedd ar sail dros dro sef y Brif Weithredwr, Prif Swyddog Cyllid a Swyddog
Monitro a Swyddog Priodoldeb ynghyd â darparu gwasanaethau cefnogol i’r
Cydbwyllgor.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Cefnogwyd y cynnig i dynnu yn ôl yr
argymhellion swyddi.
¾ Diolchwyd i staff
Gwynedd am gymryd y rôl i arwain ar gwaith o sefydlu’r Cydbwyllgor, gan fod
maint yn y gwaith yn sylweddol er mwyn creu corff biwrocrataidd.