Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro mewn ymgynghoriad
â’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth a’r Fforwm Craffu.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
1.
Addasu Adran 13 Rhan 2 y Cyfansoddiad drwy ddileu’r swyddogaethau canlynol o
gylch gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio: “adolygu a chraffu ar
faterion yn ymwneud â gweithrediad mewnol y Cyngor megis strategaethau corfforaethol,
partneriaethau, ymgysylltu , trawsnewid busnes, trefniadau effeithlonrwydd a’r
gweithlu a’r swyddogaethau a gyflawnir gan yr Adran Gyllid, yr Adran Gefnogaeth
Gorfforaethol a’r Tîm Arweinyddiaeth.”
2. Addasu Rhan 7 o’r Cyfansoddiad yn unol ag
Atodiad 1 i’r adroddiad i osod y cyfrifoldebau a nodir gyda’r Pwyllgor Craffu
Addysg ac Economi.
3. Derbyn er gwybodaeth yr addasiadau i
Adran 13 – Rhan 2 o’r Cyfansoddiad, Aelodaeth a Chyfrifoldebau Cabinet.
COFNODION:
Cyflwynodd
y Swyddog Monitro adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i addasu
trefniadau craffu materion corfforaethol, a hefyd yn cyflwyno’r wybodaeth am
addasiadau i’r Cabinet.
PENDERFYNWYD
1.
Addasu Adran 13 Rhan 2 y
Cyfansoddiad drwy ddileu’r swyddogaethau canlynol o gylch gorchwyl y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio: “adolygu a chraffu ar faterion yn ymwneud â
gweithrediad mewnol y Cyngor megis strategaethau corfforaethol, partneriaethau,
ymgysylltu , trawsnewid busnes, trefniadau effeithlonrwydd a’r gweithlu a’r
swyddogaethau a gyflawnir gan yr Adran Gyllid, yr Adran Gefnogaeth
Gorfforaethol a’r Tîm Arweinyddiaeth.”
2. Addasu
Rhan 7 o’r Cyfansoddiad yn unol ag Atodiad 1 i’r adroddiad i osod y cyfrifoldebau
a nodir gyda’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi.
3. Derbyn
er gwybodaeth yr addasiadau i Adran 13 – Rhan 2 o’r Cyfansoddiad, Aelodaeth a
Chyfrifoldebau Cabinet.