13 ADRODDIAD ADRAN 13 PDF 793 KB
I ystryried yr adroddiad, nodi a chynnig sylwadau ar yr ymarfer Adran 13 a'r papur a gynhyrchwyd
gan Hymans Robertson.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad er
gwybodaeth
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gronfa yn gosod cefndir a phwrpas Adran 13 o Ddeddf
Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 sydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i
adroddiad gael ei gyhoeddi ar brisiad 91 o gronfeydd Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol Cymru a Lloegr bod 3 mlynedd.
Amlygwyd bod yr
Adran Lefelu Tai a Chymunedau wedi penodi Adran Actiwari’r
Llywodraeth i gynnal yr ymarfer o graffu canlyniadau prisiadau 2019 ar draws
cronfeydd y DU gan gyhoeddi eu casgliadau Rhagfyr 2021. Ategwyd bod Cronfa
Bensiwn Gwynedd wedi cwrdd â holl feini prawf Prisiad Adran 13 heb unrhyw
faneri ambr na choch wedi eu hamlygu na phryderon oedd angen sylw gan y
Pwyllgor - y newyddion yn gadarnhaol a chalonogol iawn.
Gwahoddwyd Malcolm Stanley o gwmni Hymans
Robertson i roi diweddariad annibynnol i’r Pwyllgor ar yr ymarfer a chyflwyno
ac egluro canlyniadau Cronfa Gwynedd. Nododd yn ei gyflwyniad bod Cronfa
Gwynedd mewn sefyllfa dda ac nad oedd pryderon ynglŷn ag ariannu’r
cynllun.
Diolchwyd am yr
adroddiad ac i Malcolm Stanley am fynychu
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod y cyflwyniad i egluro’r ffigyrau i’w groesawu
·
Bod y dull o ‘osod safle’
y gronfa yn anghyson - angen ystyried safle uchaf neu isaf ac nid cymysgedd o’r
ddau
·
Bod y canlyniad yn rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor wrth
symud ymlaen i’r prisiad nesaf
PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad er gwybodaeth