7 CYNLLUN ARCHWILIO CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2022 PDF 93 KB
I ystyried
yr adroddiad
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn Cynllun Archwilio Cyfrifon
Cronfa Bensiwn Gwynedd ar gyfer y flwyddyn 31 Mawrth 2022 (sydd yn cael ei
gwblhau gan Archwilio Cymru).
Cofnod:
Croesawyd Yvonne Thomas (Archwilio Cymru) i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd cynllun
Archwilio Cymru ar gyfer 2022 yn nodi’r gwaith y bwriedir ei gwblhau yn ystod y
flwyddyn yn unol â’r cyfrifoldeb statudol sydd ganddynt fel archwilwyr allanol.
Cyfeiriwyd at yr angen i archwilio cyfrifon y gronfa bensiwn gyda’r nod o
adnabod camddatganiadau perthnasol ynghyd a’r risgiau sydd ynghlwm i’r
archwiliad ariannol. Cyfeiriwyd at gynnwys y rhaglen archwilio perfformiad gan
gynnig braslun o’r gwaith sydd i’w gyflawni, y ffioedd a’r amserlen bwriadedig ynghyd ag amlygu y bydd Datganiad o
Gyfrifoldebau yn cael ei gyflwyno yn manylu ar faterion ac yn cynnig mwy o
wybodaeth am waith yr Archwilwyr.
Adroddwyd bod pandemig covid -19 yn parhau i
gael effaith digynsail ar y Deyrnas Unedig ac ar waith sefydliadau’r sector gyhoeddus
gydag Archwilio Cymru yn parhau i fonitro’r sefyllfa gan drafod goblygiadau
unrhyw newidiadau gyda swyddogion. Amlygwyd bod y risgiau a nodwyd yn rai oedd
yn berthnasol i bob cynllun ac nid yn unigryw i Wynedd a bod y cynnydd mewn
ffioedd o ganlyniad i’r angen i fuddsoddi’n barhaus yn ansawdd y gwaith
archwilio mewn ymateb i bwysau cynyddol a chostau.
Diolchwyd am yr
adroddiad ac i Yvonne Thomas am fyncyhu’r
cyfarfod. Mynegwyd parodrwydd i gydweithio a gwerthfawrogwyd bod Tîm Archwilio
Cymru yn rhugl yn y Gymraeg a bod hyn i’w groesawu.
PENDERFYNWYD:
Derbyn
archwiliad cyfrifon Cynllun Archwilio Cronfa Bensiwn Gwynedd ar gyfer y
flwyddyn 31 Mawrth 2022 (sydd yn cael ei gwblhau gan Archwilio Cymru).