8 CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2022 PDF 104 KB
Cyflwyno a nodi’r Datganiad
o’r Cyfrifon Drafft
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn a nodi Datganiad
Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar
archwiliad) ar gyfer 2021/22
Cofnod:
Cyflwynwyd, er
gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion gweithgareddau
ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2022.
Amlygwyd bod y cyfrifon (drafft) yn destun archwiliad sy’n cael ei weithredu
gan Archwilio Cymru
Adroddwyd bod y
cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth sy’n
cael ei gyflwyno yn y cyfrifon.
Mynegwyd bod y
flwyddyn wedi bod yn un prysur i’r gronfa wrth drosglwyddo marchnadoedd
datblygol i Partneriaeth Pensiwn Cymru, gosod targed sero net a monitro effaith
digwyddiadau megis y rhyfel Wcráin. Cyfeiriwyd at grynodeb o gyfrif y gronfa
gan nodi bod y ffigyrau yn eithaf cyson. Ategwyd bod lleihad yn y costau rheoli
o’r flwyddyn flaenorol a hynny oherwydd bod ffioedd Partners
bellach wedi sefydlogi.
Gyda chynnydd yng
ngwerth farchnad y gronfa o £247 miliwn, daeth gwerth y gronfa i £2.7biliwn.
Cymerodd
Cyfarwyddwr y Gronfa y cyfle i ddiolch i’r Tîm Buddsoddi am eu hymroddiad i
sicrhau bod Datganiad Cyfrifon (drafft) wedi ei gwblhau o few
yr amserlen. Nododd fod y Pennaeth Cyllid eisoes wedi ardystio’r cyfrifon
drafft ac mai ymarfer da oedd rhannu’r cyfrifon gyda’r Aelodau er mwyn rhoi
cyfle i holi / cyflwyno sylwadau.
Diolchwyd am yr
adroddiad
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag eglurhad dros ystyr ‘buddion heb eu hawlio’, nodwyd bod
y term yn cyfeirio at sefyllfaoedd e.e, lle mae
ad-daliad wedi rhewi, methiant i adnabod lleoliad unigolyn neu yn syml fuddion
heb eu hawlio gan gyfranwyr.
Mewn ymateb i sylw
am leihad yn y gwerthiannau yn ystod y flwyddyn, nodwyd bod y lleihad yn
cyfeirio at y gweithgareddau ac nid lleihad yn y gwerth. Ategwyd bod y
gweithgaredd o drosglwyddo buddsoddiadau wedi creu effaith (83% o fuddsoddiadau
wedi trosglwyddo i Gronfa Pensiwn Cymru erbyn hyn).
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â lleihad yn enillion net ar fuddsoddiadau
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â lleihad yn enillion net ar fuddsoddiadau (£249.18m ar y
31ain o Fawrth 2022 o gymharu â £596.28m ar y 31ain o Fawrth 2021), nodwyd bod
buddsoddiadau ecwiti marchnadoedd stoc wedi bod yn llewyrchus ers cwymp y pandemig yma Mawrth 2020, ond erbyn hyn wedi sefydlogi -
serch hynny, eglurwyd bod £249.18m o enillion yn amlygu blwyddyn dda.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chyfraniadau cyfranwyr yn gyfartal i bawb beth bynnag yw
cyfraniad y cyflogwr, nodwyd bod y cyfraniadau yn amrywio gyda newidiadau yn
cael eu cyflwyno gyda’r prisiad bob tair blynedd.
PENDERFYNWYD Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y
Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad)
ar gyfer 2021/22