9 CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU PDF 191 KB
I ystyried a chymeradwyo’r Cynllun Busnes
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn a chymeradwyo’r Cynllun
Busnes
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi a oedd yn cynnwys Cynllun Busnes y
Bartneriaeth. Adroddwyd bod y Bartneriaeth yn creu Cynllun Busnes yn flynyddol
am gyfnod o dair blynedd gyda’r cynnwys yn manylu ar sut mae’r Bartneriaeth yn
mynd i gyflawni ei nodau. Pwrpas y cynllun busnes yw:
• Esbonio cefndir a strwythur
llywodraethu’r PPC
• Amlinellu'r blaenoriaethau a’r
amcanion dros y tair blynedd nesaf
• Amlinellu'r gyllideb ariannol ar
gyfer cyfnod y Cynllun Busnes
• Crynhoi Buddsoddiadau ac Amcanion
Perfformiad PPC
Ategwyd bod y
cynllun busnes yn cael ei fonitro’n gyson ac yn cael ei adolygu a’i gytuno’n
ffurfiol bob blwyddyn. Nodwyd hefyd bod gofyn i’r 8 Awdurdod sydd yn rhan o’r
Bartneriaeth gymeradwyo’r Cynllun.
Diolchwyd am yr
adroddiad
PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r Cynllun Busnes