Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 27/06/2022 - Pwyllgor Pensiynau (eitem 9)

9 CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 191 KB

I ystyried a chymeradwyo’r Cynllun Busnes

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Derbyn a chymeradwyo’r Cynllun Busnes

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi a oedd yn cynnwys Cynllun Busnes y Bartneriaeth. Adroddwyd bod y Bartneriaeth yn creu Cynllun Busnes yn flynyddol am gyfnod o dair blynedd gyda’r cynnwys yn manylu ar sut mae’r Bartneriaeth yn mynd i gyflawni ei nodau. Pwrpas y cynllun busnes yw:

 

           Esbonio cefndir a strwythur llywodraethu’r PPC

           Amlinellu'r blaenoriaethau a’r amcanion dros y tair blynedd nesaf

           Amlinellu'r gyllideb ariannol ar gyfer cyfnod y Cynllun Busnes

           Crynhoi Buddsoddiadau ac Amcanion Perfformiad PPC

 

Ategwyd bod y cynllun busnes yn cael ei fonitro’n gyson ac yn cael ei adolygu a’i gytuno’n ffurfiol bob blwyddyn. Nodwyd hefyd bod gofyn i’r 8 Awdurdod sydd yn rhan o’r Bartneriaeth gymeradwyo’r Cynllun.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r Cynllun Busnes