7 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2021-2022 GWE 
 PDF 384 KB 
						
				
I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn a chymeradwyo’r Adroddiad
Blynyddol ar gyfer 2021-2022.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Rheolwr Gyfarwyddwr GwE gan nodi y prif bwyntiau isod:
-     
Er
eglurder,nodwyd fod cynnwys yr adroddiad yn deillio o ymweliadau ag ysgolion,
themâu o gynlluniau busnes, trafodaethau gyda’r Bwrdd Rheoli a blaenoriaethau
Llywodraeth Cymru.
-     
Datganwyd
fod nifer o agweddau cadarnhaol i’w clodfori yn yr adroddiad megis
o  
Bod
cydweithio effeithiol wedi sirchau cefnogaeth briodol i ysgolion yn ystod
cyfnod heriol iawn drwy gynnal cyswllt parhaus.
o  
Datblygwyd
system dysgu o bell i gydymffurfio gyda heriau newydd oedd yn wynebu addysg yng
Nghymru. 
o  
Mae
gwefan GwE yn profi yn boblogaidd iawn. 
-     
Eglurwyd
bod GwE a Prifysgol Bangor yn cydweithio’n 
agos mewn perthynas â prosiect ‘Ein Llais 
-     
Cydnabyddwyd
bod sawl her yn gwynebu GwE yn y dyfodol megis:
o  
datblygu
a magu gweithlu dros gyfnod estynedig.
o  
Datblygu
arweinyddiaeth. Roedd y cyfnodau clo yn gyfnod o ‘reoli’ yn hytrach na ‘arwain’
er mwyn sicrhau diogelwch ac felly mae angen sicrhau fod y sgiliau
arweinyddiaeth yn cael eu datblygu unwaith yn rhagor.
o  
Materion
busnes megis cofrestr risg, gwerth am arian a herio perfformiad, yn ogystal â
chyfrifoldeb i ddatblygu staff ysgolion a gweithlu GwE. 
-     
Yn
dilyn cais am wybodaeth bellach ar bynciau penodol, eglurodd y Rheolwr
Gyfarwyddwr:
o  
Bod
llawer o frwdrfrydedd gan ysgolion uwchradd y dwyrain i fod yn rhan o brosiect
‘Ein Llais Ni’. Rhaid cael proses rhaeadru effeithiol er mwyn sicrhau fod y prosiect
yn cael ei ddatblygu’n llwyddiannus. Mae’r Gweinidog Addysg wedi dangos
diddordeb yn y prosiect ac yn awyddus i rhannu’r prosiect gyda rhanbarthau
eraill er mwyn mabwysiadu’r project yn genedlaethol.
o  
Gwneir
gwaith cyson er mwyn sicrhau lles disgyblion a staff. Mae’r gwaith hwn yn
amrwyio fesul awdurdod oherwydd anghenion gwahanol yr ardaloedd. Bydd gwaith
pellach yn cael ei wneud ym mis Medi ar lefel ysgolion unigol..
o  
Mae
hyder i ddefnyddio’r iaith Gymraeg wedi dirywio ers y cyfnodau clo felly mae gwaith
yn cael ei wneud er mwyn datblygu’r hyder hwnnw unwaith eto. Mae yna leihad yn
y nifer o ddisgyblion sydd yn dewis astudio’r pwnc ‘Cymraeg’ yn eu addysg uwch
a throsiant mewn nifer o swyddi penaethiaid. Mae gwaith yn cael ei wneud ar y
cyd gyda Prifysgol Bangor er mwyn annog disgyblion i barhau gyda’u addysg yn yr
iaith Gymraeg.. Mae gwaith yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod gweithlu
dwy-ieithog yn cael ei feithrin.
o  
Mae’r
berthynas rhwng gofalwyr/rhieni a’r ysgolion wedi cael ei herio yn y cyfnodau
clo. Mae gwaith yn cael ei wneud er mwyn datblygu pecyn o adnoddau er mwyn rhoi
arweiniad i rieni ar y dulliau gorau o gefnogi plant a phobl ifanc.
PENDERFYNWYD
-      Derbyn
a chymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021-2022.