Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 13/07/2022 - Cyd-Bwyllgor GwE (eitem 7)

7 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2021-2022 GWE pdf eicon PDF 384 KB

I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021-2022.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Rheolwr Gyfarwyddwr GwE gan nodi y prif bwyntiau isod:

 

-      Er eglurder,nodwyd fod cynnwys yr adroddiad yn deillio o ymweliadau ag ysgolion, themâu o gynlluniau busnes, trafodaethau gyda’r Bwrdd Rheoli a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

-      Datganwyd fod nifer o agweddau cadarnhaol i’w clodfori yn yr adroddiad megis

o   Bod cydweithio effeithiol wedi sirchau cefnogaeth briodol i ysgolion yn ystod cyfnod heriol iawn drwy gynnal cyswllt parhaus.

o   Datblygwyd system dysgu o bell i gydymffurfio gyda heriau newydd oedd yn wynebu addysg yng Nghymru.

o   Mae gwefan GwE yn profi yn boblogaidd iawn.

-      Eglurwyd bod GwE a Prifysgol Bangor yn cydweithio’n  agos mewn perthynas â prosiect ‘Ein Llais

-      Cydnabyddwyd bod sawl her yn gwynebu GwE yn y dyfodol megis:

o   datblygu a magu gweithlu dros gyfnod estynedig.

o   Datblygu arweinyddiaeth. Roedd y cyfnodau clo yn gyfnod o ‘reoli’ yn hytrach na ‘arwain’ er mwyn sicrhau diogelwch ac felly mae angen sicrhau fod y sgiliau arweinyddiaeth yn cael eu datblygu unwaith yn rhagor.

o   Materion busnes megis cofrestr risg, gwerth am arian a herio perfformiad, yn ogystal â chyfrifoldeb i ddatblygu staff ysgolion a gweithlu GwE.

 

-      Yn dilyn cais am wybodaeth bellach ar bynciau penodol, eglurodd y Rheolwr Gyfarwyddwr:

o   Bod llawer o frwdrfrydedd gan ysgolion uwchradd y dwyrain i fod yn rhan o brosiect ‘Ein Llais Ni’. Rhaid cael proses rhaeadru effeithiol er mwyn sicrhau fod y prosiect yn cael ei ddatblygu’n llwyddiannus. Mae’r Gweinidog Addysg wedi dangos diddordeb yn y prosiect ac yn awyddus i rhannu’r prosiect gyda rhanbarthau eraill er mwyn mabwysiadu’r project yn genedlaethol.

o   Gwneir gwaith cyson er mwyn sicrhau lles disgyblion a staff. Mae’r gwaith hwn yn amrwyio fesul awdurdod oherwydd anghenion gwahanol yr ardaloedd. Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud ym mis Medi ar lefel ysgolion unigol..

o   Mae hyder i ddefnyddio’r iaith Gymraeg wedi dirywio ers y cyfnodau clo felly mae gwaith yn cael ei wneud er mwyn datblygu’r hyder hwnnw unwaith eto. Mae yna leihad yn y nifer o ddisgyblion sydd yn dewis astudio’r pwnc ‘Cymraeg’ yn eu addysg uwch a throsiant mewn nifer o swyddi penaethiaid. Mae gwaith yn cael ei wneud ar y cyd gyda Prifysgol Bangor er mwyn annog disgyblion i barhau gyda’u addysg yn yr iaith Gymraeg.. Mae gwaith yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod gweithlu dwy-ieithog yn cael ei feithrin.

o   Mae’r berthynas rhwng gofalwyr/rhieni a’r ysgolion wedi cael ei herio yn y cyfnodau clo. Mae gwaith yn cael ei wneud er mwyn datblygu pecyn o adnoddau er mwyn rhoi arweiniad i rieni ar y dulliau gorau o gefnogi plant a phobl ifanc.

 

PENDERFYNWYD

 

-      Derbyn a chymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021-2022.