9 CYFRIFON GWE 2021-2022 - ALLDRO REFENIW PDF 396 KB
I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nodi a derbyn y Cyfrif Incwm a
Gwariant Refeniw am 2021-2022 a gyflwynwyd yn Atodiad 1 fel y sefyllfa ariannol
derfynol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cyllid
yr Awdurdod Lletyol a nodwyd y prif bwyntiau isod:
-
Er
bod cyllideb gytbwys wedi cael ei osod ar gyfer y flwyddyn ariannol, mae
sefyllfa ddiwedd y flwyddyn yn dangos gorwariant o £230,128 am y flwyddyn
ariannol.
-
Dengys
yr adroddiad fod tanwariant mewn rhai meysydd megis gweithwyr a cludiant. Y
prif resymau dros hyn ydi fod llawer o’r gweithlu wedi cael secondiad i weithio
ar brosiectau penodol, yn ogystal a’r diffyg teithio yn ystod y cyfnodau clo.
-
Bu
gorwariant ar adeilad GwE fel canlyniad i golled incwm wrth i bobl beidio
rhentu ystafelloedd yn ystod y cyfnodau clo. Mae hyn i’w ddisgwyl hefyd yn y
flwyddyn ariannol bresennol ond disgwylir i’r sefyllfa wella.
-
Eglurwyd
fod penderfyniad wedi cael ei wneud yn ystod y flwyddyn i wario cyfran o’r
arian a gynilwyd yng nghronfa wrth gefn GwE. Mae tanwariant yn y blynyddoedd
diwethaf wedi arwain i’r gronfa gwrth gefn gynyddu’n sylweddol i £563,530 ar
gychwyn y flwyddyn ariannol. Mae defnyddio’r arian yma, ynghyd â’r tanwariant
mewn meysydd penodol wedi ariannu gwariant yn erbyn y pennawd Prosiectau
Penodol. Bu penderfyniad bwriadol i wario’r arian yma er mwyn sicrhau fod
ysgolion yn parhau i gael cefnogaeth yn ystod y cyfnodau clo.
-
Gofynnir
i’r pwyllgor gymeradwyo trosglwyddiad o gyfrif wrth gefn GwE er mwyn arainnu’r gwariant yma. Bydd balans
o £437,503 yn weddill yn y gronfa wrth gefn.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd
nodwyd y pwyntiau isod gan Rheolwr Gyfarwyddwr GwE:
-
Bydd
sgyrsiau yn cael eu cynnal gyda’r Bwrdd Rheoli pan yn briodol i ystyried
trefniadau gweithio’r gweithlu yn y dyfodol. Y gobaith yw y bydd y mwyafrif o
weithlu GwE yn gweithio yn y swyddfa a/neu allan yn yr ysgolion. Bydd angen trafodaethau pellach ar modelau
gweithio i’r dyfodol.
-
PENDERFYNWYD
- Nodi a
derbyn y Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw am 2021-2022 a gyflwynwyd yn Atodiad 1
fel y sefyllfa ariannol derfynol.
- Cymeradwyo
trosglwyddiad ariannol o gronfa wrth gefn GwE i ariannu gorwariant 2021-2022 o
£230,128.