Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 13/07/2022 - Cyd-Bwyllgor GwE (eitem 9)

9 CYFRIFON GWE 2021-2022 - ALLDRO REFENIW pdf eicon PDF 396 KB

I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

 

Nodi a derbyn y Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw am 2021-2022 a gyflwynwyd yn Atodiad 1 fel y sefyllfa ariannol derfynol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletyol a nodwyd y prif bwyntiau isod:

-      Er bod cyllideb gytbwys wedi cael ei osod ar gyfer y flwyddyn ariannol, mae sefyllfa ddiwedd y flwyddyn yn dangos gorwariant o £230,128 am y flwyddyn ariannol.

-      Dengys yr adroddiad fod tanwariant mewn rhai meysydd megis gweithwyr a cludiant. Y prif resymau dros hyn ydi fod llawer o’r gweithlu wedi cael secondiad i weithio ar brosiectau penodol, yn ogystal a’r diffyg teithio yn ystod y cyfnodau clo.

-      Bu gorwariant ar adeilad GwE fel canlyniad i golled incwm wrth i bobl beidio rhentu ystafelloedd yn ystod y cyfnodau clo. Mae hyn i’w ddisgwyl hefyd yn y flwyddyn ariannol bresennol ond disgwylir i’r sefyllfa wella.

-      Eglurwyd fod penderfyniad wedi cael ei wneud yn ystod y flwyddyn i wario cyfran o’r arian a gynilwyd yng nghronfa wrth gefn GwE. Mae tanwariant yn y blynyddoedd diwethaf wedi arwain i’r gronfa gwrth gefn gynyddu’n sylweddol i £563,530 ar gychwyn y flwyddyn ariannol. Mae defnyddio’r arian yma, ynghyd â’r tanwariant mewn meysydd penodol wedi ariannu gwariant yn erbyn y pennawd Prosiectau Penodol. Bu penderfyniad bwriadol i wario’r arian yma er mwyn sicrhau fod ysgolion yn parhau i gael cefnogaeth yn ystod y cyfnodau clo.

-      Gofynnir i’r pwyllgor gymeradwyo trosglwyddiad o gyfrif wrth gefn GwE er mwyn arainnu’r gwariant yma. Bydd balans o £437,503 yn weddill yn y gronfa wrth gefn.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd nodwyd y pwyntiau isod gan Rheolwr Gyfarwyddwr GwE:

-      Bydd sgyrsiau yn cael eu cynnal gyda’r Bwrdd Rheoli pan yn briodol i ystyried trefniadau gweithio’r gweithlu yn y dyfodol. Y gobaith yw y bydd y mwyafrif o weithlu GwE yn gweithio yn y swyddfa a/neu allan yn yr ysgolion.  Bydd angen trafodaethau pellach ar modelau gweithio i’r dyfodol.

-       

 

PENDERFYNWYD

 

-      Nodi a derbyn y Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw am 2021-2022 a gyflwynwyd yn Atodiad 1 fel y sefyllfa ariannol derfynol.

 

-      Cymeradwyo trosglwyddiad ariannol o gronfa wrth gefn GwE i ariannu gorwariant 2021-2022 o £230,128.