12 DATGANIAD LLYWODRAETHU 2021-2022 
 PDF 252 KB 
						
				
I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn a chymeradwyo y Datganiad
Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2021-2022.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Rheolwr
Gyfarwyddwr GwE a Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletyol
a nodwyd y prif faterion isod:
            
-     
Eglurwyd
ei fod yn ofyn statudol ar GwE i baratoi datganiad llywodraethu. Bydd yn cael
ei gyflwyno gyda’r cyfrifon wedi i Archwilio Cymru gwblhau ei archwiliad.
-     
Dangoswyd
enghreifftiau o sut mae GwE ac ysgolion y rhanbarth eisoes wedi dangos
llwyddiant wrth ddilyn y saith egwyddor.
-     
Cadarnhawyd
fod y ddogfen hon yn ddogfen fyw, sydd yn newid yn barhaus ble mae’n briodol,
er mwyn adlewyrchu unrhyw heriau.
PENDERFYNWYD
Derbyn a chymeradwyo y Datganiad Llywodraethu Blynyddol
ar gyfer 2021-2022.