Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 13/07/2022 - Cyd-Bwyllgor GwE (eitem 12)

12 DATGANIAD LLYWODRAETHU 2021-2022 pdf eicon PDF 252 KB

I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a chymeradwyo y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2021-2022.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletyol a nodwyd y prif faterion isod:

           

-      Eglurwyd ei fod yn ofyn statudol ar GwE i baratoi datganiad llywodraethu. Bydd yn cael ei gyflwyno gyda’r cyfrifon wedi i Archwilio Cymru gwblhau ei archwiliad.

-      Dangoswyd enghreifftiau o sut mae GwE ac ysgolion y rhanbarth eisoes wedi dangos llwyddiant wrth ddilyn y saith egwyddor.

-      Cadarnhawyd fod y ddogfen hon yn ddogfen fyw, sydd yn newid yn barhaus ble mae’n briodol, er mwyn adlewyrchu unrhyw heriau.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a chymeradwyo y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2021-2022.