15 CANLLAWIAU GWELLA YSGOLION: FFRAMWAITH AR GYFER GWERTHUSO, GWELLA AC ATEBOLRWYDD PDF 568 KB
I dderbyn Gwybodaeth o’r adroddiad a nodi unrhyw sylwadau.
Penderfyniad:
Nodi a derbyn cynnwys yr
adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfarwyddwr
Cynorthwyol GwE a nodwyd y prif faterion isod:
-
Esboniwyd
fod y canllawiau hyn wedi cael eu cyhoeddi yn dilyn diddymu’r system o
gategoreiddio ysgolion. Mae’n system anstatudol ar hyn o bryd ond mae disgwyl
iddo fod yn statudol erbyn Medi 2024. Serch hyn, mae disgwyliad ar ysgolion i
geisio mabwysiadau’r canllawiau mor fuan â phosibl.
-
Nodwyd
mai prif agweddau’r canllawiau ydi:
o
Rhaid
i gyrff llywodraethu sicrhau bod copi cryno o'u cynllun datblygu ysgol ar gael
trwy’r Adroddiad Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol. Er mwyn helpu i gynyddu hyder
yn yr ysgol a’i chynllun datblygu a’r ymrwymiad iddynt, dylai’r ysgol
gyhoeddi’r copi cryno ar ei gwefan. Dylid ysgrifennu’r crynodeb mewn iaith sy’n
hawdd i rieni, gofalwyr a dysgwyr ei deall. .
o
Rhaid
hefyd rhoi trosolwg
tudalen o hyd ar gasgliadau/canfyddiadau hunanwerthuso’r ysgol, gan gyfleu prif
gryfderau’r ysgol a’r meysydd i’w datblygu,. Mae disgwyliad iddo gynnwys
blaenoriaethau gwella lefel uchel; camau gweithredu a gynlluniwyd er mwyn
cyflawni'r blaenoriaethau hynny; a cherrig milltir perthnasol.
o
Mae
angen i’r corff llywodraethu ddangos holl gymorth allanol mae’r ysgol wedi ei
dderbyn yn y flwyddyn ariannol honno (gan gynnwys cefnogaeth GwE).
o
Bydd
y cyrff llywodraeth yn adrodd ar gynnydd yn erbyn blaenoriaethau’r flwyddyn
flaenorol.
o
Rhaid
i GwE a’r Awdurdod Lleol gynnal deialog proffesiynol gyda’r corff llywodraethu
er mwyn trafod prosesau hunan werthuso, cryfderau’r ysgol ac unrhyw fater arall
sydd angen i’r corff llywodraethol fod yn ymwybodol ohonno
a’i fonitro.
o
Rhaid
i’r corff llywodraethol dderbyn adroddiad ar sut bydd cefnogaeth yn cael ei
gynnal.
Mewn ymateb i sylwadau, nododd y Rheolwr
Gyfarwyddwr:
-
Ei
fod yn cydnabod fod y canllawiau hyn wedi cael eu cyflwyno ar amser heriol iawn
gan fod ysgolion dal yn ymdopi gyda materion Covid-19 yn ogystal â phrysurdeb
diwedd flwyddyn academaidd. Er bod ysgolion yn pryderu na fyddai’n bosibl
cyflawni’r canllawiau hyn erbyn diwedd y flwyddyn academaidd, mae’r Rheolwr
Gyfarwyddwr yn ffyddiog byddai’r ysgolion yn gallu gweithredu ar y canllawiau
yn fuan yn nhymor yr Hydref er mwyn sichrau erbyn
diwedd y flwyddyn academaidd nesaf, bydd yr ysgolion wedi ymrwymo â’r
canllawiau yn effeithlon ac yn llwyddiannus.
-
Byddai
hyn yn rhoi amser i ysgolion ddod i arfer â’r canllawiau hyn cyn iddynt fod yn
statudol ac hefyd yn rhoi amser i werthuso’r gwaith er mwyn gallu ceisio datrys
y problemau sy’n codi o’r canllawiau cyn iddynt gael eu gwneud yn statudol ym
mis Medi 2024.
PENDERFYNWYD
Nodi a derbyn cynnwys yr
adroddiad.