7 Cais Rhif C22/0242/34/LL Tir ger Penlon, Clynnog Fawr, LL54 5PE PDF 509 KB
Adeiladu tŷ newydd
a llecynnau parcio
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Dafydd Davies
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod
Rhesymau
Cofnod:
Adeiladu
tŷ newydd a llecynnau parcio
Y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio mis
Gorffennaf er mwyn cynnal ymweliad safle.
Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle
02/09/22 er mwyn ymgyfarwyddo gyda gosodiad a chyd-destun y bwriad o fewn yr
amgylchedd lleol.
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd i godi
tŷ deulawr ar lain o dir ger Pen Lôn, o flaen anheddau a adnabyddir fel Y
Ficerdy a Clynnog House gydag annedd preswyl Tŷ
Isaf a Court Cottages at
gefn y safle o fewn ardal breswyl a ffin datblygu Clynnog Fawr. Ceir hefyd yma
fynediad cefn at Eglwys Beuno Sant sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan y pum
tŷ presennol cyfagos. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli yn union gerllaw
Adeiladau Rhestredig, wedi lleoli o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol (AHNE) a hefyd o fewn Ardal Cadwraeth ac er derbyn nifer o sylwadau
ynglŷn a pharcio a man troi, nid oedd gan yr Uned Trafnidiaeth
wrthwynebiad.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio ar gais gan yr aelod lleol.
Wedi ystyried
yr holl faterion perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a
chenedlaethol a’r sylwadau a dderbyniwyd, amlygwyd na ellid argymell caniatáu’r
cais oherwydd y methiant i fodloni gofynion polisïau TAI y CDLL sy’n ymwneud ag
addasrwydd y datblygiad i gydymffurfio â chymeriad yr anheddle ar ran ei faint
a graddfa a bod angen amddiffyn y llecyn agored rhag gor-ddatblygiad
er mwyn diogelu edrychiad a chymeriad yr ardal cadwraeth leol.
b)
Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu y cais
Rhesymau: Hawl
i berson godi tŷ a byw yn ei gynefin; plwyf yw Clynnog ac nid Eglwys yn
unig; y dyluniad yn dderbyniol - mater o farn; Dim gwrthwynebiad gan yr Uned
Trafnidiaeth na’r AHNE.
c) Mewn ymateb i’r cynnig a sylw bod y Cyngor Cymuned yn cefnogi cartref i
deulu lleol, nododd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd mai tŷ
marchnad agored oedd dan sylw ac nad oedd modd cyfyngu pwy fydd yn gallu byw yn
yr eiddo.
ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Bod y dyluniad yn rhy fodern, yn
amhriodol ac yn sefyll allan yn y lleoliad yma
·
Bydd yn creu effaith ar yr eglwys – yn
anaddas i’w leoliad
·
Mater o farn yw'r dyluniad – tir gwag
yng nghanol y pentref
·
Bod y tir ym meddiant person lleol sydd
eisiau dychwelyd i fyw yn y pentref
·
A yw polisïau yn gwarchod pobl ynteu adeiladau? Blaenoriaethu
pwysigrwydd yr eglwys ynteu gadw pobl yn lleol?
·
Dyluniad yn dderbyniol – awgrym cynnwys
amod i osod cerrig blaen
d) Pleidleisiwyd
ar y cynnig i ganiatáu.
Disgynnodd y cynnig
e) Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais yn unol ar argymhelliad
PENDERFYNWYD:
Gwrthod
Rhesymau
1. Mae’r bwriad, oherwydd ei faint a gosodiad yn groes i ofynion Polisïau PCYFF3, TAI 4, o’r CDLL. Ystyrir byddai’r bwriad yn groes i’r patrwm datblygu oherwydd diffyg cwrtil / man agored o gwmpas y tŷ. Ni ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7