Trosi to
fflat yn deras to. Ffenestr gefn llawr cyntaf i'w thrawsnewid yn ddrws i
ganiatáu mynediad a rhwystr o amgylch perimedr y to fflat a decin
ar y llawr.
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Kim Jones
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gwrthod
Rheswm
Cofnod:
Trosi to fflat yn
deras to. Ffenestr gefn llawr cyntaf i'w thrawsnewid yn ddrws i ganiatáu
mynediad a rhwystr o amgylch perimedr y to fflat a decin
ar y llawr.
a) Amlygodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer creu teras trwy osod decin ar do fflat sydd ar estyniad presennol ar gefn eiddo
anheddol. Bwriedir gosod drws yn lle ffenestr llawr cyntaf er caniatáu mynediad
at y cyfleuster. Mae'r to yn mesur 5.2m x 4.2m o arwynebedd llawr ac mae'n 3.8m
uwch lefel y llawr. Eglurwyd bod yr eiddo yn dŷ deulawr pen teras mewn
ardal anheddol o Ganolfan Gwasanaeth Lleol Llanberis fel y'i diffinnir gan
Gynllun Datblygu Lleol ar y cyd Gwynedd a Môn. Saif hefyd oddi fewn i Dirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dinorwig.
Nodwyd bod
y cais gerbron y Pwyllgor oherwydd bod sylwadau wedi eu derbyn ar y cais gan Bennaeth Adran yr Amgylchedd.
Ategwyd bod yr Aelod Lleol yn gwrthwynebu'r cais oherwydd ei fod yn ymyrryd ar
breifatrwydd cymdogion
Yng nghyd destun egwyddor y datblygiad ystyriwyd
byddai’r datblygiad arfaethedig yn achosi effeithiau gor-edrych
sylweddol, yn niweidiol i fwynderau trigolion eiddo preifat cyfagos yn ogystal
â chreu elfen ddominyddol.
b) Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y
cais
c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelod:
·
Byddai’r datblygiad yn cael effaith
sylweddol ar breifatrwydd cymdogion
·
Yn creu teimlad gormesol
PENDERFYNWYD:
Gwrthod – rhesymau
Byddai’r
datblygiad arfaethedig yn achosi effeithiau gor-edrych
sylweddol a fyddai’n niweidiol i fwynderau trigolion eiddo preifat cyfagos yn
ogystal â chreu elfen ddominyddol a fyddai'n ffynhonnell posib sŵn ac
aflonyddwch. Mae'r cais felly'n groes i bolisi PCYFF 2 Cynllun Datblygu Lleol
ar y Cyd Gwynedd a Môn fel y mae’n ymwneud ag amddiffyn mwynderau trigolion
lleol.