Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 05/09/2022 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 10)

10 Cais Rhif C22/0529/15/DT Cil Melyn, 8 Stryd Warden, Llanberis, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4HP pdf eicon PDF 386 KB

Trosi to fflat yn deras to. Ffenestr gefn llawr cyntaf i'w thrawsnewid yn ddrws i ganiatáu mynediad a rhwystr o amgylch perimedr y to fflat a decin ar y llawr.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Kim Jones

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

 

Rheswm

 

  1. Byddai’r datblygiad arfaethedig yn achosi effeithiau gor-edrych sylweddol a fyddai’n niweidiol i fwynderau trigolion eiddo preifat cyfagos yn ogystal â chreu elfen ddominyddol a fyddai'n ffynhonnell posib sŵn ac aflonyddwch. Mae'r cais felly'n groes i bolisi PCYFF 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn fel y mae’n ymwneud ag amddiffyn mwynderau trigolion lleol.

 

 

Cofnod:

Trosi to fflat yn deras to. Ffenestr gefn llawr cyntaf i'w thrawsnewid yn ddrws i ganiatáu mynediad a rhwystr o amgylch perimedr y to fflat a decin ar y llawr.

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer creu teras trwy osod decin ar do fflat sydd ar estyniad presennol ar gefn eiddo anheddol. Bwriedir gosod drws yn lle ffenestr llawr cyntaf er caniatáu mynediad at y cyfleuster. Mae'r to yn mesur 5.2m x 4.2m o arwynebedd llawr ac mae'n 3.8m uwch lefel y llawr. Eglurwyd bod yr eiddo yn dŷ deulawr pen teras mewn ardal anheddol o Ganolfan Gwasanaeth Lleol Llanberis fel y'i diffinnir gan Gynllun Datblygu Lleol ar y cyd Gwynedd a Môn. Saif hefyd oddi fewn i Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dinorwig.

 

Nodwyd bod y cais gerbron y Pwyllgor oherwydd bod sylwadau wedi eu derbyn  ar y cais gan Bennaeth Adran yr Amgylchedd. Ategwyd bod yr Aelod Lleol yn gwrthwynebu'r cais oherwydd ei fod yn ymyrryd ar breifatrwydd cymdogion

 

Yng nghyd destun egwyddor y datblygiad ystyriwyd byddai’r datblygiad arfaethedig yn achosi effeithiau gor-edrych sylweddol, yn niweidiol i fwynderau trigolion eiddo preifat cyfagos yn ogystal â chreu elfen ddominyddol.

 

b)    Cynigiwyd  ac eiliwyd gwrthod y cais

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelod:

 

·         Byddai’r datblygiad yn cael effaith sylweddol ar breifatrwydd cymdogion

·         Yn creu teimlad gormesol

 

PENDERFYNWYD: Gwrthod – rhesymau

 

Byddai’r datblygiad arfaethedig yn achosi effeithiau gor-edrych sylweddol a fyddai’n niweidiol i fwynderau trigolion eiddo preifat cyfagos yn ogystal â chreu elfen ddominyddol a fyddai'n ffynhonnell posib sŵn ac aflonyddwch. Mae'r cais felly'n groes i bolisi PCYFF 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn fel y mae’n ymwneud ag amddiffyn mwynderau trigolion lleol.