Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 06/10/2022 - Y Cyngor (eitem 7)

7 ADRODDIAD SEFYDLOGRWYDD Y FARCHNAD GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD DRAFFT 2022 pdf eicon PDF 384 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo Adroddiad Sefydlog y Farchnad Gogledd Cymru 2022.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Dilwyn Morgan, adroddiad yn darparu trosolwg o Adroddiad Sefydlogrwydd Marchnad Gogledd Cymru 2022, a luniwyd fel gofyn dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.  Gofynnwyd am gymeradwyaeth y Cyngor llawn i’r ddogfen.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Diolchwyd i bawb fu’n gysylltiedig â pharatoi’r adroddiad mewn amser mor fyr, a hefyd am y gwaith hynod bwysig yn y maes sy’n aml yn anweladwy. 

·         Holwyd a fyddai’n werth herio Llywodraeth Cymru i roi mwy o arian yn uniongyrchol i’r cynghorau ar gyfer talu am ofalwyr.  Mewn ymateb, eglurwyd bod sgyrsiau aeddfed, a dyddiol bron, yn cymryd lle rhwng y Cyngor, y rhanbarth a gweinidogion y Llywodraeth ar hyn o bryd.  O ran taliadau, cyfeiriwyd at y system daliadau uniongyrchol i ofalwyr, a nodwyd bod gwaith ar droed i hyrwyddo hynny ymhellach dros y cyfnod nesaf.

·         Mewn ymateb i sylw, cadarnhawyd bod gofal seibiant yn flaenoriaeth uchel, a bod y Cyngor yn gefnogol, ac yn awyddus iawn i wneud gymaint ag y gellid i gefnogi gofalwyr di-dâl yn ein cymunedau.

·         Awgrymwyd y dylai’r Cyngor ail-edrych ar y dull o dalu costau teithio i ofalwyr, yn enwedig oddi fewn i’r gwaith, wrth iddynt deithio o un lleoliad i’r llall.  Mewn ymateb, eglurwyd bod hyn yn rhan o’r gwaith o ail-ddylunio gofal cartref, ac y byddai yna fanteision, nid yn unig i’r bobl sy’n derbyn y gofal, ond hefyd i’r gweithwyr, gan y byddai’r Cyngor yn ail-edrych ar eu telerau gwaith fel rhan o hyn. 

·         Nodwyd bod costau uchel tanwydd ac yswiriant car yn rwystr i bobl ifanc rhag gweithio fel gofalwyr.

·         Mynegwyd pryder ynglŷn â’r diffyg gwelyau nyrsio yn Nwyfor a Meirionnydd a galwyd am sefydlu’r cartref nyrsio newydd ar safle Penrhos, Pwllheli.  Mewn ymateb, nodwyd, er na ellid cadarnhau’r amserlen ar hyn o bryd, bod Penrhos yn gynllun eithriadol gyffrous a blaengar, ac awgrymwyd y gellid cynnal cyfarfod gyda’r aelod lleol i leddfu ei phryderon, gan hefyd roi mwy o gyhoeddusrwydd i’r datblygiad arfaethedig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Sefydlog y Farchnad Gogledd Cymru 2022.