9 ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2021/22 PDF 210 KB
Cyflwyno
adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad.
Cofnod:
Croesawyd Dr Einir Young, Cadeirydd y
Pwyllgor Safonau, i’r cyfarfod i gyflwyno adroddiad blynyddol y pwyllgor am
2021-22.
Nododd y Dr Einir Young mai hwn fyddai’r
tro olaf iddi ddod gerbron y Cyngor i gyflwyno’r adroddiad blynyddol, gan fod
ei thymor ar y Pwyllgor yn dod i ben.
Diolchodd i aelodau’r Pwyllgor, y Swyddog Monitro, y Rheolwr Priodoldeb
ac Etholiadau a’r Swyddog Gwasanaethau Democratiaeth am eu holl gymorth a
chefnogaeth ar hyd y blynyddoedd. Diolchodd
hefyd i’r aelodau etholedig am gynnal safonau ac am wneud gwaith y pwyllgor yn
haws.
Diolchodd y Swyddog Monitro i’r Dr Einir
Young am ei gwasanaeth ac am gadeirio ac arwain y Pwyllgor yn lleol ac yn
rhanbarthol hefyd. Diolchodd iddi hefyd
am y gefnogaeth a’r gwaith caled a’r weledigaeth, gan ddymuno’n dda iddi i’r
dyfodol.
Ategwyd geiriau’r
Swyddog Monitro gan y Cadeirydd, yr Arweinydd ac Arweinydd yr Wrthblaid,
a diolchwyd i’r Dr Einir Young am ddod gerbron y Cyngor yn flynyddol i
roi cyflwyniad clir, cytbwys a chadarn.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.