8 DIWYGIO POLISI IAITH GYMRAEG Y CYNGOR PDF 507 KB
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mabwysiadu’r Polisi Iaith Gymraeg diwygiedig.
Cofnod:
Cyflwynodd yr
Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Menna Jones, adroddiad yn
gwahodd y Cyngor llawn i fabwysiadu Polisi Iaith Gymraeg diwygiedig er mwyn
adlewyrchu:-
·
Y
newidiadau mawr yn y modd mae’r Cyngor yn gweithredu ac yn darparu gwasanaethau
i’r cyhoedd ers i’r polisi cyfredol gael ei lunio yn 2016; ac
·
Uchelgais
cyfredol y Cyngor o ran hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn ei wasanaethau.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau
unigol:-
·
Gan gyfeirio at Atodiad B i’r adroddiad – Crynodeb
Ymgysylltu y Polisi – croesawyd y ffaith bod y ddogfen ar ei newydd wedd yn
ystyried y materion a godwyd yng nghyfarfod 20 Mehefin, 2022 o’r Pwyllgor
Iaith, ond gofynnwyd am eglurhad ar y paragraff “Mae gennym bryder am ymrwymo mewn cymal polisi i fesur
effaith cynlluniau yn uniongyrchol ar nifer a chanran siaradwyr, gan nad hawdd
yw gwneud cyswllt uniongyrchol rhwng polisïau, prosiectau a chynlluniau
strategol y Cyngor a newid yn nifer a chanran siaradwyr, ac felly nid hawdd
fyddai profi yr effaith.” Cydnabyddid bod hynny’n anodd, ond ni chredid y dylai
hynny fod yn rheswm dros beidio asesu effaith polisïau. Mewn ymateb, nodwyd mai’r hyn oedd yn anodd
oedd gwybod sut i roi hynny fel egwyddor yn y polisi ei hun, ond cadarnhawyd
bod hyn yn waith oedd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd gan yr Uned i fod yn
datblygu mesuryddion ar gyfer gwahanol brosiectau a pholisïau.
·
Nodwyd y dylai unrhyw asesiad effaith ystyried
pethau sy’n fesuradwy a’i bod yn hanfodol gwybod beth ydi’r mesuryddion. Awgrymwyd bod canran siaradwyr mewn cymuned
neilltuol yn rhywbeth y mae modd ei fesur, yn fwy na phethau meddal. Ni chredid bod problem yn y maes cynllunio,
er enghraifft, i fesur hynny, ond derbynnid y gallai fod yn anodd mewn rhai
meysydd eraill lle mae cysylltu’r dystiolaeth a’r polisi yn anodd.
·
Pwysleisiwyd pwysigrwydd edrych ar bethau fel yr
iaith Gymraeg a thechnoleg a bod y polisi’n cyfarch y materion pwysig yma i’r
dyfodol.
·
Croesawyd amcan y Cyngor i gyfeirio at ei hun fel ‘Cyngor Gwynedd’ yn hytrach na ‘Cyngor Gwynedd Council’
o hyn allan.
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r
Polisi Iaith Gymraeg diwygiedig.