CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT
Penderfyniad:
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu
Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini
prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod yr
unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod y
cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod y
cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol ynghyd ag adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a
Cherbydau a thystysgrif feddygol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r
Is-bwyllgor ganiatáu y cais.
Mewn ymateb i gyflwyniad y swyddog trwyddedu, oedd yn nodi’r angen i’r
ymgeisydd ymhelaethu ar pam na fu iddo gydnabod trosedd yfed a gyrru ar ei
ffurflen gais am drwydded, amlygodd y swyddog trwyddedu mai camgymeriad oedd y
frawddeg yma yn yr adroddiad ac ymddiheurwyd am gamarwain yr is-bwyllgor.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan
roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau ar ei drwydded a’i amgylchiadau
personol. Nododd bod y collfarnau yn rhai hanesyddol ac wedi digwydd mewn
cyfnod anodd yn ei arddegau. Amlygodd bod y gollfarn olaf wedi digwydd 37 o flynyddoedd
yn ôl ac ers y gollfarn honno yn 1985 ei fod wedi dilyn gyrfa ym myd gofal
plant ac oedolion gydag anghenion dysgu.
PENDERFYNWYD bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar
gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r
datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd
·
Canllawiau'r
Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
·
Ffurflen feddygol yr ymgeisydd
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Collfarn.1 : Ym Medi 1980, cafwyd yr ymgeisydd yn euog am ddwyn drwy
ladrata o siop yn groes i'r Ddeddf Lladrata 1968a.1. Roedd yr ymgeisydd yn 15
oed pan ddigwyddodd y drosedd a derbyniodd ddirwy o £25.
Collfarn 2 : Ym mis Awst 1983 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o geisio lladrad
o anheddau yn groes i'r Ddeddf Lladrata 1968 a.9 (1)(a). Roedd yr ymgeisydd yn
18 oed pan ddigwyddodd y drosedd a derbyniodd orchymyn prawf dwy flynedd.
Collfarn 3 : Ym mis Mawrth 1984 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o ddau achos o
ladrata o siop yn groes i'r Ddeddf Lladrata 1968 a.1 ;Torri
Gorchymyn Profiannaeth - Deddf Pwerau Llysoedd Troseddol 1973 a.6. Roedd yr
ymgeisydd yn 19 oed pan ddigwyddodd y troseddau a chafodd ei roi mewn canolfan
gadw am 21 diwrnod.
Collfarn 4 : Ym mis Hydref 1984 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5