Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 04/10/2022 - Y Cabinet (eitem 5)

5 ADRODDIAD PERFFORMAID YR AELOD CABINET DROS ECONOMI A CHYMUNED pdf eicon PDF 469 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn / Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y prif gynlluniau. Nodwyd o ran Uchelgais y Gogledd fod rhai prosiectau bellach ar waith, ond eglurwyd fod un cynllun bellach wedi ei dynnu yn ôl. Mynegwyd fod cynllun Bodelwyddan wedi ei dynnu yn ôl o ganlyniad i newidiadau yn y cynllun datblygu lleol a olygwyd ei fod yn addasu holl ansawdd y prosiect. Eglurwyd fod trefniadau yn ei lle i ystyried cynlluniau i lenwi’r bwlch.

 

Tynnwyd sylw at gais i gyflawni Ffordd Mynediad Llanbedr ac i osgoi y pentref gan nodi fod yr adran yn parhau i ddisgwyl am gyhoeddiad gan y Llywodraeth Prydain i wybod os yw’r cais wedi bod yn llwyddiannus. Cyfeiriwyd at gynllun Arfor gan nodi fod y Llywodraeth a’r Awdurdodiadau bellach wedi cytuno ar y cynlluniau ond eu bod yn parhau i disgwyl am y llythyr ffurfiol er mwyn cychwyn ar y gwaith. Amlygwyd fod yr amserlen yn mynd i fod yn dynn i wario yr arian o fewn y 6 mis nesaf.

 

Bu i’r Pennaeth Adran dynnu sylw yn benodol at berfformiad yr adran, gan adrodd y bydd angen cyflwyno adroddiad pellach i’r Cabinet ar sefyllfa Byw’n Iach. Eglurwyd er yn galonogol fod nifer defnyddwyr yn dychwelyd i’r gwasanaeth yn codi, mae’n parhau i fod yn isel yn dilyn cyfnod y pandemig ac fod yn rhoi pwysau ychwanegol ar eu cyllideb.

 

Ar y llaw arall nodwyd fod Hafan, Pwllheli sy’n rhan o’r Gwasanaeth Morwrol bellach yn llawn ac fod hyn yn rhoi pwysau ar is-adeiledd ac y galw am fuddsoddiad pellach yno. O ran y sefyllfa arbedion nodwyd fod pwysau ar gyllideb yr adran gan fod gwaith uwchraddio Neuadd Dwyfor wedi arafu o ganlyniad i’r pandemig ac felly heb gyrraedd ei darged incwm. Ond eglurwyd fod gwaith cynllunio manwl yn cael ei wneud ac fod yr adran yn gobeithio y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn haf nesaf. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Amlygwyd fod rhai traethau wedi cael problemau mawr dros yr haf, yn benodol yn Morfa Bychan gyda Cartrefi Modur yn aros dros nos. Holwyd os oes modd sicrhau fod y sefyllfa yn cael ei datrys cyn haf nesaf. Eglurwyd fod llythyr bellach wedi ei baratoi a fydd yn cael ei gyflwyno i’r unigolion a fydd yn gwrthod symud eu cerbydau a / neu cydymffurfio a fydd yn rhoi dirwy o hyd at £1000 iddynt, ac y bydd hyn yn gobeithio yn weithredol o’r Pasg ymlaen. 

¾     Nodwyd fod nifer o gynlluniau yn edrych ar greu gwaith yn yr ardal, ac amlygwyd bellach fod prinder pobl i lenwi’r swyddi. Eglurwyd fod y sefyllfa wedi newid ers pan crëwyd y cynlluniau bum mlynedd yn ôl, ac felly bydd yr heriau newydd yn cael eu hamlygu yn Cynllun y Cyngor nesaf.

¾     Mynegwyd fod cronfeydd Ewropeaidd yn o dod i ben dros y blynyddoedd nesaf, gyda’r mwyafrif o’r gwariant  yn gorfod cael ei gwblhau erbyn 2023. O ganlyniad i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5

Awdur: Sioned E Williams