Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 04/10/2022 - Y Cabinet (eitem 6)

6 ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS GEFNOGAETH GORFFORAETHOL A CHYFREITHIOL pdf eicon PDF 596 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Jones  

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod gan yr adran Gefnogaeth Corfforaethol 9 blaenoriaeth gwella o fewn Cynllun y Cyngor. Nodwyd fod un ohonynt sef Cynllunio Gweithlu yn her i bawb ond fod gwaith yn cael ei wneud o fewn yr adran i edrych ar hyn. O ran cynllun Cadw’r Budd yn Lleol ei fod yn symud i’r cyfeiriad cywir a mynegwyd fod yr Aelod Cabinet yn edrych ymlaen i barhau gyda’r gwaith da sydd yn cael ei wneud yn y maes cydraddoldeb.

 

Tynnwyd sylw at y maes Cyfreithiol gan nodi fod hyfforddiant i aelodau yn ystod y cyfnod croeso wedi mynd yn arbennig o dda. Amlygwyd yn ogystal fod canran o bobl ifanc 16+ a oedd wedi cofrestru i bleidleisio bellach wedi codi i 70%. Mynegwyd fod hyn o ganlyniad i benodi aelod o staff i annog bobl ifanc ynghyd ag arwain y gwaith.

 

Ar y cyfan nodwyd fod yr aelod Cabinet yn hapus gyda perfformiad yr adran.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol y bydd dau o’r blaenoriaethau gwella yn dod i ben yn naturiol eleni sef Hybu Defnydd o’r Cymraeg ac y Defnydd o’r Gymraeg mewn Gwasanaethau Cyhoeddus. O ran perfformiad yr adran nodwyd fod peth oedi wedi bod o ganlyniad i’r pandemig yn y maes gwyliadwriaeth iechyd, ac fod y tîm iechyd galwedigaethol yn ceisio dal i fyny gyda’r gwaith. Ychwanegwyd fod y gwaith o greu endid annibynnol i Hunaniaith yn parhau ac fod y grŵp arweiniol yn hyderus y bydd modd gwneud datganiad yn yr Eisteddfod yn 2023.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Holwyd gyda nifer uchel o ddynion i’w gweld ar y Tîm Rheoli o fewn y Cyngor beth mae’r cynllun Merched mewn Arweinyddiaeth yn ei wneud i hybu merched mewn rolau uwch o fewn y Cyngor. Nodwyd fod Grŵp Gweithredol Merched mewn Arweinyddiaeth yn cyfarfod yn rheolaidd ac fod nifer o gynlluniau megis y rhaglen datblygu potensial a sgyrsiau dros baned i staff a Cynghorwyr. Eglurwyd fod sylfaen bendant wedi ei osod a nodwyd hyder y bydd y cynllun yn llwyddiannus ond fod newid diwylliant am gymryd amser. Ychwanegwyd yn ogystal fod nifer y merched sydd wedi ymgeisio am swyddi uwch wedi codi ond nad oeddent i’w gweld yn y penodiadau eto.

¾     O ran y Gwaith Cynllunio Gweithlu, nodwyd balchder fod y gwaith yn symud yn ei flaen ond ei fod yn her fawr sydd i’w gweld ar draws y Cyngor. Holwyd sut mae’r Cynllun yn mesur y perfformiad. Nodwyd fod y Grŵp Cynllunio Gweithlu yn cyfarfod yn fisol, ac y bydd ystadegau yn cael ei cyflwyno i’r aelodau Cabinet dros yr wythnosau nesaf. cael ystadegau i sicrhau ddim mewn lle gwell na be da ni yn meddwl.

¾     Holwyd sut mae’r cyfleon o fewn y Cyngor, megis Cynllun Yfory a Prentisiaethau yn cael ei gwerthu i bobl ifanc. Nodwyd fod cynllun newydd yn y broses o gael ei ddatblygu ac fod nifer uchel  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6

Awdur: Geraint Owen