Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 28/09/2022 - Pwyllgor Craffu Cymunedau (eitem 8)

8 BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2022/23 pdf eicon PDF 230 KB

Cyflwyno rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2022/23 i’w mabwysiadu.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r rhaglen waith ar gyfer 2022/23.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu a thynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Cadarnhawyd yr eitemau a flaenoriaethwyd ar gyfer pwyllgorau’r flwyddyn yn y gweithdy blynyddol ar 06.07.2022 a nodwyd bod dwy eitem ar ôl i’w amserlennu ar gyfer y flwyddyn, sef ‘Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur’ a ‘Chynllun Gwella Hawliau Tramwy’.

 

-      Eglurwyd bod adroddiad Cynllun Gwella Hawliau Tramwy wedi ei amserlennu i’w drafod yn y Cabinet ar 22.11.2022 ac felly byddai’n amserol i drafod y mater hwn yng nghyfarfod 27.10.2022 o’r pwyllgor hwn. Cadarnhawyd y byddai angen cadarnhau hyn gyda’r adran berthnasol er mwyn sicrhau ei fod yn bosibl iddynt gynhyrchu adroddiad cynhwysfawr o fewn y cyfyngiadau amser hyn.

 

Mewn ymateb i ymholiad yng nghyswllt amserlennu’r eitem ‘Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur’. Nodwyd y ceir trafodaeth yng nghyfarfod anffurfiol y pwyllgor, ble byddai adborth yn cael ei rannu o gyfarfod y Bwrdd Hinsawdd a Natur.

 

PENDERFYNWYD

Mabwysiadu’r rhaglen waith ar gyfer 2022/23.