8 BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2022/23 PDF 230 KB
Cyflwyno rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2022/23
i’w mabwysiadu.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mabwysiadu’r
rhaglen waith ar gyfer 2022/23.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu
a thynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:
- Cadarnhawyd yr eitemau a
flaenoriaethwyd ar gyfer pwyllgorau’r flwyddyn yn y gweithdy blynyddol ar
06.07.2022 a nodwyd bod dwy eitem ar ôl i’w amserlennu ar gyfer y flwyddyn, sef
‘Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur’ a ‘Chynllun Gwella Hawliau Tramwy’.
- Eglurwyd bod adroddiad Cynllun Gwella
Hawliau Tramwy wedi ei amserlennu i’w drafod yn y Cabinet ar 22.11.2022 ac
felly byddai’n amserol i drafod y mater hwn yng nghyfarfod 27.10.2022 o’r
pwyllgor hwn. Cadarnhawyd y byddai angen cadarnhau hyn gyda’r adran berthnasol
er mwyn sicrhau ei fod yn bosibl iddynt gynhyrchu adroddiad cynhwysfawr o fewn
y cyfyngiadau amser hyn.
Mewn ymateb i ymholiad yng nghyswllt
amserlennu’r eitem ‘Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur’. Nodwyd y ceir
trafodaeth yng nghyfarfod anffurfiol y pwyllgor, ble byddai adborth yn cael ei
rannu o gyfarfod y Bwrdd Hinsawdd a Natur.
PENDERFYNWYD
Mabwysiadu’r rhaglen waith
ar gyfer 2022/23.