5 ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS GWYNEDD AC YNYS MÔN PDF 202 KB
Adolygu Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd
ac Ynys Môn a diweddariad ar waith yr is-grwpiau.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn
yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Arweinydd y Cyngor a Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwynedd ac Ynys Môn a tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:
-
Esboniwyd
fod y Bwrdd wedi ei sefydlu o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
(Cymru) 2015 a bod y bwrdd yn gorff statudol ar y cyd gydag Ynys Môn.
-
Eglurwyd
fod y gwasanaethau Iechyd a thân, colegau, Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc
Cenedlaethol Eryri a chymdeithasau tai yn cael eu cynrychioli ar y bwrdd. Maent
yn adnabod meysydd pwysig a nodi mannau ble gall cydweithio mewn partneriaeth
gael mwy o effaith ar drigolion.
-
Adroddwyd
bod Asesiadau Llesiant yn cael eu cwblhau pob 5 mlynedd dros 13 ardal wahanol.
Nodwyd bod Gwynedd wedi ei rannu yn 8 ardal ac Ynys Môn wedi ei rannu i 5
ardal. Eglurwyd bod y rhaniad yma wedi cael ei greu fel bod y materion pwysicaf
ym mhob ardal yn cael eu cyfarch, gan fod y materion hynny yn amrywio o ardal i
ardal.
-
Cadarnhawyd fod Cynllun Llesiant yn cael ei baratoi ar gyfer y cyfnod
2023-2028 yn dilyn yr Asesiadau Llesiant presennol.
-
Cyfeiriwyd at dri is-grŵp gweithredol sy’n delio â rhai o agweddau
gweithredu’r Bwrdd a nodwyd eu prif blaenoriaethau:
-
Is-grŵp Newid Hinsawdd: yn canolbwyntio ar ddatblygu dulliau atal
llifogydd.
-
Is-grŵp yr Iaith Gymraeg: yn canolbwyntio ar wella a hwyluso’r
defnydd o’r iaith Gymraeg. Cynhaliwyd cynllun peilot er mwyn cydweithio â
sefydliadau cyhoeddus i weld pam bod pobl ddim yn defnyddio’r Gymraeg mewn
derbynfeydd a sut gynyddu defnydd o’r iaith.
-
Is-grŵp Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig: yn llywodraethu
sefydlu trefn cydweithio yn y sector,
gan gynnwys y Timau Adnoddau Cymunedol.
-
Sicrhawyd
y byddai drafft o’r Cynllun Llesiant (2023-2028) yn cael ei gyflwyno i’r
pwyllgor.
Diolchwyd
am yr adroddiad.
Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y
materion canlynol:
Byddai mewnbwn y
pwyllgor hwn yn ddefnyddiol i’r Bwrdd wrth lunio’r Cynllun Llesiant.
-
Mewn
ymateb i’r ymholiad, esboniodd Arweinydd y Cyngor bod adroddiad yn mynd i’r
Cabinet yn fuan ar sut roedd y Bwrdd yn mynd ati i gasglu gwybodaeth.
Ymhelaethodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn
bod drafft y Cynllun Llesiant (2023-2028) ar ei ffordd i’r pwyllgor craffu hwn
mor fuan â phosibl.
Holwyd os oedd
modd gweld cynllun gweithredu’r is-grŵp newid hinsawdd yn ogystal â derbyn
cadarnhad o aelodaeth yr is-grŵp er mwyn edrych ar ei effeithiolrwydd a
chynllun amser.
- Mewn ymateb i’r ymholiad, eglurodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn, bod yr is-grŵp yn cael ei arwain gan Gyfoeth Naturiol Cymru a sicrhawyd yr aelodau fod holl aelodau’r is-grŵp yn cymryd perchnogaeth ohono. Cydnabuwyd bod amcanion yr is-grŵp wedi bod yn rhy eang yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf ac o’r herwydd nid oedd wedi bod mor llwyddiannus a obeithiwyd. Er hyn, ymhelaethodd Arweinydd y Cyngor bod atal llifogydd yn brif ffocws yn ddiweddar ac yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5