7 GWASANAETH CADWRAETH YNNI NEWYDD PDF 2 MB
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad oedd yn
darparu trosolwg o waith y gwasanaeth Ynni
Newydd yn ogystal â’r gwaith Newid Hinsawdd.
Cofnod:
Derbyniwyd rhagair gan yr Aelod Cabinet Tai ac Eiddo a gyfeiriodd at
waith tîm o Swyddogion yn y Gwasanaeth Eiddo sy’n ceisio lleihau ôl troed
carbon y Cyngor. Nododd eu bod wedi profi llwyddiannau ac o ganlyniad, wrth
greu’r Cynllun Gweithredu Tai, roedd awydd i helpu trigolion a’r cyhoedd yng
Ngwynedd drwy gynnig cymorth a chefnogaeth ymarferol. O ganlyniad eglurwyd bod
y Gwasanaeth Cadwraeth Ynni Newydd wedi cael ei sefydlu. Dan arweiniad y
Rheolwr Ynni a Gwasanaethau Masnachol credwyd bod y gwasanaeth hwn wedi
llwyddo. Mynegwyd balchder yn y gwaith a phwysleisiwyd pwysigrwydd lledaenu’r
neges am y gwaith da sy’n cael ei wneud gan y tîm.
Mynegodd y Pennaeth Tai ac Eiddo ei diolch am y cyfle i adrodd am
weithgareddau’r Gwasanaeth Ynni Newydd i’r Pwyllgor. Nododd y bydd yr adroddiad
yn cyfeirio at y daith o sefydlu’r gwasanaeth a’r hyn sydd wedi ei gyflawni hyd
yma yn ogystal â’r gwaith sydd ar y gweill. Mae’r adroddiad yn cyfeirio at sut
mae cynllun rheoli carbon y Cyngor yn plethu efo’r gwaith ar y cynllun newid
hinsawdd y mae’r Cyngor wedi ei ymrwymo iddo.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Ynni a Gwasanaethau Masnachol gan
gyfeirio at brif negeseuon yr adroddiad. Nodwyd bod dwy ran i’r adroddiad, bydd
y rhan gyntaf yn cyfeirio at y Gwasanaeth Ynni Newydd a’r ail ran yn cyfeirio
at y Cynllun Rheoli Carbon a’r gwaith sydd wedi ei wneud dros y deuddeg mlynedd
diwethaf.
Tywyswyd y Pwyllgor drwy’r adroddiad gan dynnu sylw at y gwaith o
ddatgarboneiddio tai a’r help sydd ar gael gan y Cyngor tuag at dlodi tanwydd.
Nodwyd bod y wybodaeth yn yr adroddiad megis y graffiau yn drawiadol am eu bod
yn dangos difrifoldeb y sefyllfa yng Ngwynedd a chyfeiriwyd at
aneffeithlonrwydd ynni mwyafrif o dai'r Sir. Manylwyd am y cynlluniau megis
Nyth ac ECO a’r taliadau sydd ar gael i gynnig cymorth i bobl Gwynedd a
thrigolion sydd ar fesuryddion rhagdalu.
Ychwanegwyd bod y tîm yn ceisio sicrhau bod pobl y Sir yn hawlio popeth
sydd ar gael iddynt ac yn gwneud gwaith o gyfeirio unigolion at y cynlluniau
priodol. Rhagdybiwyd y bydd y galw ar y tîm yn cynyddu o ganlyniad i gostau
tanwydd cynyddol ac mai amser a ddengys a yw’r hyn sydd ar gael gan y tîm yn
ddigonol i anghenion pobl Gwynedd. Nodwyd bod hafan newydd ar gyfer tlodi ar
wefan y Cyngor yn cynnwys gwybodaeth defnyddiol am y gefnogaeth sydd ar gael.
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan aelodau:-
·
Diolchwyd am adroddiad arbennig a broliwyd y cynnwys
manwl.
·
Mynegwyd sylw ei bod yn fwy
costus i fod ar fesuryddion rhagdalu ond mai hwn yw’r opsiwn fwyaf fforddiadwy
i amryw yn y Sir am nad oes angen talu lwmp swm yn chwarterol.
· Cyfeiriwyd at ECO 4 a’r grantiau sydd ar gael i insiwleiddio tai er mwyn arbed ynni. Pryderwyd y gall lleithder ddatblygu mewn eiddo o ganlyniad i waith insiwleiddio a holwyd os oes rywun o’r Cyngor yn cynnal ymweliadau er mwyn sicrhau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7