Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 29/09/2022 - Pwyllgor Craffu Gofal (eitem 7)

7 GWASANAETH CADWRAETH YNNI NEWYDD pdf eicon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad oedd yn darparu trosolwg o waith y gwasanaeth Ynni Newydd yn ogystal â’r gwaith Newid Hinsawdd.

 

Cofnod:

Derbyniwyd rhagair gan yr Aelod Cabinet Tai ac Eiddo a gyfeiriodd at waith tîm o Swyddogion yn y Gwasanaeth Eiddo sy’n ceisio lleihau ôl troed carbon y Cyngor. Nododd eu bod wedi profi llwyddiannau ac o ganlyniad, wrth greu’r Cynllun Gweithredu Tai, roedd awydd i helpu trigolion a’r cyhoedd yng Ngwynedd drwy gynnig cymorth a chefnogaeth ymarferol. O ganlyniad eglurwyd bod y Gwasanaeth Cadwraeth Ynni Newydd wedi cael ei sefydlu. Dan arweiniad y Rheolwr Ynni a Gwasanaethau Masnachol credwyd bod y gwasanaeth hwn wedi llwyddo. Mynegwyd balchder yn y gwaith a phwysleisiwyd pwysigrwydd lledaenu’r neges am y gwaith da sy’n cael ei wneud gan y tîm.

 

Mynegodd y Pennaeth Tai ac Eiddo ei diolch am y cyfle i adrodd am weithgareddau’r Gwasanaeth Ynni Newydd i’r Pwyllgor. Nododd y bydd yr adroddiad yn cyfeirio at y daith o sefydlu’r gwasanaeth a’r hyn sydd wedi ei gyflawni hyd yma yn ogystal â’r gwaith sydd ar y gweill. Mae’r adroddiad yn cyfeirio at sut mae cynllun rheoli carbon y Cyngor yn plethu efo’r gwaith ar y cynllun newid hinsawdd y mae’r Cyngor wedi ei ymrwymo iddo.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Ynni a Gwasanaethau Masnachol gan gyfeirio at brif negeseuon yr adroddiad. Nodwyd bod dwy ran i’r adroddiad, bydd y rhan gyntaf yn cyfeirio at y Gwasanaeth Ynni Newydd a’r ail ran yn cyfeirio at y Cynllun Rheoli Carbon a’r gwaith sydd wedi ei wneud dros y deuddeg mlynedd diwethaf.

 

Tywyswyd y Pwyllgor drwy’r adroddiad gan dynnu sylw at y gwaith o ddatgarboneiddio tai a’r help sydd ar gael gan y Cyngor tuag at dlodi tanwydd. Nodwyd bod y wybodaeth yn yr adroddiad megis y graffiau yn drawiadol am eu bod yn dangos difrifoldeb y sefyllfa yng Ngwynedd a chyfeiriwyd at aneffeithlonrwydd ynni mwyafrif o dai'r Sir. Manylwyd am y cynlluniau megis Nyth ac ECO a’r taliadau sydd ar gael i gynnig cymorth i bobl Gwynedd a thrigolion sydd ar fesuryddion rhagdalu.

 

Ychwanegwyd bod y tîm yn ceisio sicrhau bod pobl y Sir yn hawlio popeth sydd ar gael iddynt ac yn gwneud gwaith o gyfeirio unigolion at y cynlluniau priodol. Rhagdybiwyd y bydd y galw ar y tîm yn cynyddu o ganlyniad i gostau tanwydd cynyddol ac mai amser a ddengys a yw’r hyn sydd ar gael gan y tîm yn ddigonol i anghenion pobl Gwynedd. Nodwyd bod hafan newydd ar gyfer tlodi ar wefan y Cyngor yn cynnwys gwybodaeth defnyddiol am y gefnogaeth sydd ar gael.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

 

·         Diolchwyd am adroddiad arbennig a broliwyd y cynnwys manwl.

·         Mynegwyd sylw ei bod yn fwy costus i fod ar fesuryddion rhagdalu ond mai hwn yw’r opsiwn fwyaf fforddiadwy i amryw yn y Sir am nad oes angen talu lwmp swm yn chwarterol.

·         Cyfeiriwyd at ECO 4 a’r grantiau sydd ar gael i insiwleiddio tai er mwyn arbed ynni. Pryderwyd y gall lleithder ddatblygu mewn eiddo o ganlyniad i waith insiwleiddio a holwyd os oes rywun o’r Cyngor yn cynnal ymweliadau er mwyn sicrhau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7