6 ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL RHIANT CORFFORAETHOL PDF 104 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Elin Walker Jones
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a oedd yn
adrodd ar waith y Panel Rhiant Corfforaethol ar gyfer 2021-22.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Elin Walker Jones
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a oedd yn adrodd ar waith y Panel Rhiant Corfforaethol ar gyfer 2021-22.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod gofyn i Aelodau Cabinet fod yn ymwybodol o waith y Panel Rhiant Corfforaethol. Eglurwyd fod yr adroddiad yn nodi fod gan y Cyngor gyfrifoldeb clir i fod yn Rhiant Corfforaethol i bob plentyn yng Ngwynedd, ac i sicrhau gofal effeithiol, diogel, sefydlog ac addas i blant mewn gofal.
Amlygwyd y prif bwyntiau yn yr adroddiad a oedd yn cynnwys fod gostyngiad wedi bod yn nifer y plant mewn gofal dros y flwyddyn 2021-22, gyda 46 plentyn wedi dod i ofal am y tro cyntaf yn ystod y flwyddyn ac 54 wedi mynd allan o ofal. Pwysleisiwyd ei bod yn ymddangos fod y strategaeth o gadw teuluoedd gyda’i gilydd yn gweithio gyda nifer uchel o blant yn parhau i fod adref dan oruchwyliaeth neu wedi eu lleoli gyda gofalwyr maeth o fewn eu teuluoedd.
Tynnwyd sylw yn benodol at Geiswyr Lloches ar eu Pen eu Hunain gan nodi fod y Swyddfa Gartref wedi rhoi cyfarwyddyd i bob Awdurdod Lleol i dderbyn dyraniad o geiswyr lloches. Amlygwyd rhwng Rhagfyr a Mawrth y bu i’r Cyngor dderbyn 3 ceisiwr Lloches, a rhaid nodi fod darganfod lleoliadau addas wedi bod yn heriol o safbwynt eu hoedran, anghenion ieithyddol a diwylliannol ac yn aml iawn y trawma maent wedi ei profi. Nodwyd y cynlluniau a fydd yn cael eu blaenoriaethu gan y Panel eleni a oedd yn cynnwys ail edrych ar y strategaeth ac i barhau i glywed a gwrando ar lais y plant mewn gofal.
Ychwanegodd Pennaeth Adran Plant a Cefnogi Teuluoedd fod niferoedd ceiswyr lloches bellach yn 10 unigolyn, gan nodi fod yr amserlen wedi bod yn hynod dynn gyda 5 diwrnod i ddod o hyd i leoliad iddynt. Eglurwyd fod cyfrifoldeb mawr ar staff i sicrhau cefnogaeth iddynt a bellach fod un gweithiwr cymdeithasol wedi cael eu ail leoli i ganolbwyntio ar y gefnogaeth yma.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Diolchwyd am yr adroddiad a nodwyd pwysigrwydd i holl gynghorwyr Gwynedd i fynychu’r hyfforddiant am eu rôl fel Rhiant Corfforaethol.
¾ Diolchwyd am addasiadau sydd wedi ei gnwued i’r panel eleni gyda’r Prif Weithredwr bellach yn Gadeirydd y Panel, gan nodi y bydd hyn yn sicrhau fod pob adran yn ymwybodol o’i cyfrifoldeb yn y maes hwn.
Awdur: Dafydd Gibbard