7 ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN CYDRADDOLDEB 2021-22 PDF 111 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nodwyd y cynnwys a cymeradwywyd Adroddiad Blynyddol 2021-22, Cynllun
Cydraddoldeb 2020-24.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Menna Jones
PENDERFYNIAD
Nodwyd y cynnwys a
cymeradwywyd Adroddiad Blynyddol 2021-22, Cynllun Cydraddoldeb 2020-24.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi mai dyma ail Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb
Strategol 2020-24. Eglurwyd fod y ddwy flynedd dan sylw wedi bod yn rhai
anarferol ac anodd ac wedi effeithio ar y maes cydraddoldeb. Mynegwyd er nad
yw’r gwasanaeth wedi gallu cyflawni popeth oeddent yn ei fwriadu yn ystod y cyfnod,
mae gwaith paratoi a chynnydd wedi ei wneud ym mhob un o’r 5 amcan ac mae
disgwyl i gwblhau’r holl waith o fewn oes y Cynllun.
Tynnwyd sylw at pob
amcan yn unigol gan nodi’r prif lwyddiannau. O ran yr amcan 1: Cryfhau a
dyfnhau capasiti ac ymrwymiad staff ac Aelodau
Etholedig Cyngor Gwynedd ym maes Cydraddoldeb trwy sicrhau eu bod yn derbyn yr
hyfforddiant cywir, nodwyd fod hyfforddiant wedi ei gynnal o bell ac fod gwaith
wedi ei wneud ar yr e-fodiwl.
Mynegwyd gyda amcan
2: Gwella’r wybodaeth sydd gennym gan ac am bobl gyda nodweddion gwarchodedig,
fod gwaith yn y maes hwn wedi cymryd mwy o amser na’r disgwyl ond eu bod wedi
adnabod fod y gwaith hyn yn rywbeth sydd angen ei wneud yn barhau gan
ddefnyddio gwahanol ddulliau. Wrth amlygu Amcan 3: Adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei wneud yn
barod i wreiddio Asesiadau Effaith Cydraddoldeb fel arf i sicrhau gwell
penderfyniadau, mynegwyd fod templed asesiad effaith cynhwysfawr wedi ei greu
yn rhanbarthol ac wedi ei addasu ar gyfer ei ddefnyddio yng Ngwynedd. Amlygwyd
mai un o’r prif lwyddiannau oedd i’r Cabinet fabwysiadu Polisi Cydraddoldeb a
Chynhwysiad.
Nodwyd o ran Amcan
4: Gweithredu i leihau’r bwlch tâl rhwng y rhywiau ac adnabod unrhyw fwlch tâl
ar sail unrhyw nodwedd arall, er fod nifer o aelodau staff a gwblhawyd holiadur
cydraddoldeb wedi codi o 41.8% i 48% eglurwyd nad oedd hyn yn ddigon o gynnydd
o bell ffordd ac o ganlyniad y bydd gwaith yn cael ei annog a gweithio gydag
Adrannau. O ran yr amcan olaf: Gweithredu i ddenu amrediad o ymgeiswyr er mwyn
cynyddu amrywiaeth ein gweithlu nodwyd fod cynllun peilot wedi ei gynnal yn yr
adran Cefnogaeth Gorfforaethol i holi’r rhai oedd yn gadael y Cyngor am unrhyw
rwystrau oeddent wedi ei wynebu.
Eglurwyd yn ogystal fod y Cyngor yn gweithio gyda Inclusive
Employers er mwyn gwella gwasanaeth y Cyngor ar gyfer
pob nodwedd.
Ychwanegodd y
Ymgynghorydd Cydraddoldeb fod peth llithriad wedi bod gyda’r gwaith o ganlyniad
i’r pandemig, ond eu bod yn symud ymlaen ac fod y gwasanaeth yn hyderus y
byddant yn cyflawni o fewn amserlen y cynllun.
Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth
¾
Diolch
am yr adroddiad ac atgoffwyd pawb fod hyrwyddo cydraddoldeb yn gyfrifoldeb i
bawb ac nid y gwasanaeth yma yn unig.
Awdur: Delyth G Williams