Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 27/09/2022 - Y Cabinet (eitem 7)

7 ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN CYDRADDOLDEB 2021-22 pdf eicon PDF 111 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd y cynnwys a cymeradwywyd Adroddiad Blynyddol 2021-22, Cynllun Cydraddoldeb 2020-24.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Jones  

 

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd y cynnwys a cymeradwywyd Adroddiad Blynyddol 2021-22, Cynllun Cydraddoldeb 2020-24.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai dyma ail Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24. Eglurwyd fod y ddwy flynedd dan sylw wedi bod yn rhai anarferol ac anodd ac wedi effeithio ar y maes cydraddoldeb. Mynegwyd er nad yw’r gwasanaeth wedi gallu cyflawni popeth oeddent yn ei fwriadu yn ystod y cyfnod, mae gwaith paratoi a chynnydd wedi ei wneud ym mhob un o’r 5 amcan ac mae disgwyl i gwblhau’r holl waith o fewn oes y Cynllun.

 

Tynnwyd sylw at pob amcan yn unigol gan nodi’r prif lwyddiannau. O ran yr amcan 1: Cryfhau a dyfnhau capasiti ac ymrwymiad staff ac Aelodau Etholedig Cyngor Gwynedd ym maes Cydraddoldeb trwy sicrhau eu bod yn derbyn yr hyfforddiant cywir, nodwyd fod hyfforddiant wedi ei gynnal o bell ac fod gwaith wedi ei wneud ar yr e-fodiwl.

 

Mynegwyd gyda amcan 2: Gwella’r wybodaeth sydd gennym gan ac am bobl gyda nodweddion gwarchodedig, fod gwaith yn y maes hwn wedi cymryd mwy o amser na’r disgwyl ond eu bod wedi adnabod fod y gwaith hyn yn rywbeth sydd angen ei wneud yn barhau gan ddefnyddio gwahanol ddulliau. Wrth amlygu Amcan 3:  Adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei wneud yn barod i wreiddio Asesiadau Effaith Cydraddoldeb fel arf i sicrhau gwell penderfyniadau, mynegwyd fod templed asesiad effaith cynhwysfawr wedi ei greu yn rhanbarthol ac wedi ei addasu ar gyfer ei ddefnyddio yng Ngwynedd. Amlygwyd mai un o’r prif lwyddiannau oedd i’r Cabinet fabwysiadu Polisi Cydraddoldeb a Chynhwysiad.

 

Nodwyd o ran Amcan 4: Gweithredu i leihau’r bwlch tâl rhwng y rhywiau ac adnabod unrhyw fwlch tâl ar sail unrhyw nodwedd arall, er fod nifer o aelodau staff a gwblhawyd holiadur cydraddoldeb wedi codi o 41.8% i 48% eglurwyd nad oedd hyn yn ddigon o gynnydd o bell ffordd ac o ganlyniad y bydd gwaith yn cael ei annog a gweithio gydag Adrannau. O ran yr amcan olaf: Gweithredu i ddenu amrediad o ymgeiswyr er mwyn cynyddu amrywiaeth ein gweithlu nodwyd fod cynllun peilot wedi ei gynnal yn yr adran Cefnogaeth Gorfforaethol i holi’r rhai oedd yn gadael y Cyngor am unrhyw rwystrau oeddent  wedi ei wynebu. Eglurwyd yn ogystal fod y Cyngor yn gweithio gyda Inclusive Employers er mwyn gwella gwasanaeth y Cyngor ar gyfer pob nodwedd.

 

Ychwanegodd y Ymgynghorydd Cydraddoldeb fod peth llithriad wedi bod gyda’r gwaith o ganlyniad i’r pandemig, ond eu bod yn symud ymlaen ac fod y gwasanaeth yn hyderus y byddant yn cyflawni o fewn amserlen y cynllun.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Diolch am yr adroddiad ac atgoffwyd pawb fod hyrwyddo cydraddoldeb yn gyfrifoldeb i bawb ac nid y gwasanaeth yma yn unig. 

 

Awdur: Delyth G Williams