Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 27/09/2022 - Y Cabinet (eitem 8)

8 DIWYGIO POLISI IAITH GYMRAEG Y CYNGOR pdf eicon PDF 404 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cefnogwyd yr addasiadau a wnaethpwyd i’r Polisi Iaith ac argymhellwyd fod y Cyngor Llawn yn mabwysiadu’r Polisi diwygiedig.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Cefnogwyd yr addasiadau a wnaethpwyd i’r Polisi Iaith ac argymhellwyd fod y Cyngor Llawn yn mabwysiadu’r Polisi diwygiedig.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Nodwyd fod y Polisi Iaith yn gosod gofynion sydd yn sicrhau bod gwasanaethau a swyddogion yn gweithio mewn ffordd sy’n cyd-fynd efo gofynion Safonau’r Gymraeg. Mynegwyd ei fod hefyd yn gosod allan ble mae’r Cyngor yn mynd y tu hwnt i ofynion y Safonau, drwy weithredu mewn ffordd sydd yn rhoi y Gymraeg gyntaf, neu yn codi statws y Gymraeg

 

Eglurwyd fod angen i adolygu wedi codi yn sgil camau gweithredu a osodwyd ar ôl ymchwiliadau Comisiynydd y Gymraeg, ac hefyd sylweddoliad bod rhai pethau wedi newid yn y ffordd mae’r Cyngor yn gweithredu a cyflwyno gwasanaethau (yn enwedig defnyddio mwy o wasanaethau ar-lein). Mynegwyd fod angen adlewyrchu newidiadau mewn Prosiectau blaenoriaeth fel y Dynodiadau Iaith, a Hunanwasanaeth ac arweiniad y Prosiect Enwau Lleoedd Cynhenid Gymraeg.

 

Amlygwyd y prif newidiadau sydd i’w gweld yn yr adroddiad o ran gosod egwyddorion cyffredinol ar ddechrau pob adran, i roi arweiniad ar gyfer gweithredu yn ddigidol ble nad oedd arweiniad cynt ac i gryfhau’r arweiniad ar asesu effaith. Mynegwyd fod trafodaethau wedi ei cynnal yn fewnol gyda grwpiau staff ar yr addasiadau yma ynghyd a trafodaeth ddwy waith gyda aelodau’r Pwyllgor Iaith.

 

Nodwyd fel y camau nesaf y bydd yr Uned Iaith a Chraffu yn llunio rhaglen gyfathrebu fel bod pob adran yn ymwybodol o’r addasiadau sydd wedi eu gnwued i’r Polisi Iaith.

 

Ychwanegodd yr Ymgynghorydd Iaith fod addasiadau wedi eu gnwued i’r Polisi Iaith yn dilyn trafodaeth yn y Pwyllgor Iaith, ac mae hyn er mwyn ymateb i’r sylwadau a dderbyniwyd yn yr ymgynghoriadau a gynhaliwyd. 

 

Awdur: Gwenllian Mair Williams