Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 27/09/2022 - Y Cabinet (eitem 10)

10 ADRODDIAD BLYNYDDOL IECHYD, DIOGELWCH A LLESIANT pdf eicon PDF 378 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr Adroddiad Blynyddol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr Adroddiad Blynyddol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Nodwyd mai dyma’r ail flwyddyn olynol heriol iawn i’r adran oherwydd sefyllfa Covid-19. Mynegwyd fod yr heriau wedi bod yn wanhaol i flwyddyn gyntaf y pandemig gyda heriau yn ymwneud ag ymateb i ofynion Llywodraeth oedd yn newid yn barhaus, adfer Gwasanaethau yn ddiogel a dychwelyd staff bregus yn ôl i’w gwaith yn ddiogel. A hynny, pwysleisiwyd, tra oedd ffigyrau Covid yng Ngwynedd yn uwch nag oeddent yn y flwyddyn flaenorol.

 

Eglurwyd o ran damweiniau a digwyddiadau fod 113 achos o staff yn dal Covid yn eu gwaith wedi ei hadrodd i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Mynegwyd o ran damweiniau fel arall ategwyd mai symud a thrin pwysau a llithro a baglu oedd y prif achosion am anafiadau. Nodwyd fod gwaith yn digwydd i daclu anafiadau symud a thrin yn benodol.

 

Mynegwyd fod Covid wedi cael effaith ar iechyd staff yn gyffredinol ac mae’r Uned Iechyd Galwedigaethol wedi gweld y nifer cyfeiriadau uchaf ers sefydlu’r Uned ac mae hyn yn wir o ran Gwasanaeth Cwnsela Medra a ffisiotherapi gyda straen, iechyd meddwl a phroblemau Cyhyrsgerbydol yn brif resymau am y cyfeiriadau.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth fod yr adroddiad hwn yn adrodd ar y sefyllfa  y llynedd, a nodwyd ei bod yn braf gallu adrodd fod camau breision yn cael ei gwneud i ddal i fyny efo risgiau sydd wedi eu hamlygu dros y blynyddoedd. Eglurwyd fod prosiect penodol ar Iechyd Meddwl ar hyn o bryd gan fod cyfeiriadau i Iechyd Galwedigaethol wedi bod yn uwch ynghyd â hyfforddiant i Reolwyr ac Arweinyddion Tîm am Iechyd Meddwl. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Amlygwyd fod digwyddiad yn cael ei gynnal ym mis Rhagfyr a fydd yn fandadol i Reolwyr ac Arweinyddion Tîm yn benodol ar Iechyd Meddwl, ble fydd hanner y trefniadau yn cael ei roi ar normaleiddio sgwrs am Iechyd Meddwl gyda Staff.

¾     Tynnwyd sylw yn ogystal i hyfforddiant i Ionawr i Gynghorwyr am adnabod diffygion Iechyd Meddwl.

 

Awdur: Catrin Love