Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 27/09/2022 - Y Cabinet (eitem 11)

11 ADRODDIAD DRAFFT O SEFYDLOGRWYDD MARCHNAD GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 384 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr Adroddiad Sefydlogrwydd ar y Farchnad Gogledd Cymru 2022 ac argymell i’r Cyngor Llawn ei gymeradwyo.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd yr Adroddiad Sefydlogrwydd ar y Farchnad Gogledd Cymru 2022 ac argymell i’r Cyngor Llawn ei gymeradwyo.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Asesiad Anghenion Poblogaeth y Gogledd wedi ei gyflwyno yn ôl ym mis Mawrth eleni ac fod yr adroddiad hwn yn ddilyniant iddo. Eglurwyd ei fod ar ei daith drwy’r Pwyllgor Craffu, Cabinet ynghyd a’r Cyngor Llawn cyn mynd ymlaen i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac yna ei gyflwyno i’r Llywodraeth. Pwysleisiwyd fod yr adroddiad ar hyn o bryd yn parhau fel drafft gan eu bod yn disgwyl am ddata cyfredol er mwyn ei ddiweddau.

 

Mynegwyd fod yr adroddiad hwn yn un pwysig a fydd yn cael ei ddefnyddio er mwyn llywio’r broses o wneud penderfyniadau nid yn unig yng Ngwynedd ond yn rhanbarthol yn ogystal. Amlygwyd fod nifer o’r meysydd sydd wedi eu hamlygu yn yr adroddiad yn faterion sydd wedi cael eu hadnabod yn barod gan y Cyngor.

 

Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Busnes fod yr Asesiad Anghenion Rhanbarthol yn rhestru yr anghenion tra fod yr adroddiad hwn fel asesiad y farchnad yn cyflwyno sut i gyflenwi ar gyfer gyfarch yr anghenion. Pwysleisiwyd fod y canfyddiadau yn cyd-fynd a’r materion sydd yn cael ei amlygu yng Ngwynedd fel prinder cartrefi nyrsio.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd fod aelodau yn aml yn ddrwgdybus o adroddiadau sydd yn cael eu gorfodi ar y Cyngor ond fod yr adroddiad hwn yn arddangos canfyddiadau ddiddorol sy’n amlygu patrymau cyflenwi a cynnydd yn y galw. Nodwyd fod y sefyllfa fregus tu hwnt i waith y Cyngor o ran cyllido a staffio, ond holwyd a fydd camau pellach yn cael ei gnwued gan y Llywodraeth yn dilyn derbyn yr adroddiad. Eglurwyd fod arwyddion yn dod gan y Llywodraeth eu bod yn rhoi mwy o bwysigrwydd i’r math yma o adroddiadau ac eu bod yn mynd i roi bwyslais i’r byrddau partneriaeth rhanbarthol.

 

Awdur: Alun Gwilym Williams