Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd argymhelliad yr Adran Addysg a Phwyllgor CYSAG
Gwynedd
fyddai newid aelodaeth Grŵp B fel a nodir :
¾
Grŵp A – Cristnogaeth a Chredoau eraill
¾
Grŵp B – cynrychiolaeth Athrawon a
Phenaethiaid – Cadw nifer y seddi ar 5
Dyrannu’r seddi fel a ganlyn:
·
3 sedd i’w rhannu rhwng yr Undebau Athrawon a
gydnabyddir gan Gyngor Gwynedd (NAS/UWT; UCAC ; NEU; ASCL a’r NAHT – i’w
benderfynu gan Fforwm Undebau Athrawon Gwynedd)
·
1 sedd i’w llenwi gan y Grŵp Ymgynghorol Dalgylchol Cynradd ac Arbennig (GYDCA)
·
1 sedd i’w llenwi gan Grŵp Penaethiaid
Uwchradd Gwynedd (GSCU)
¾
Grŵp C - Aelodau Etholedig - cadw yn 7
¾
Cyfetholedig - Pwyllgor CYSAG i gadw’r hawl i
gyfethol aelodau
(3 pleidlais sydd sef 1 i bob Grŵp, nid oes
pleidlais gan yr aelodau Cyfetholedig).
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd argymhelliad yr Adran Addysg a Phwyllgor CYSAG Gwynedd
fyddai newid aelodaeth Grŵp B fel a nodir :
¾ Grŵp A – Cristnogaeth a Chredoau eraill
¾ Grŵp B – cynrychiolaeth Athrawon a Phenaethiaid – Cadw nifer y seddi ar 5
Dyrannu’r seddi fel a ganlyn:
· 3 sedd i’w rhannu rhwng yr Undebau Athrawon a gydnabyddir gan Gyngor Gwynedd (NAS/UWT; UCAC ; NEU; ASCL a’r NAHT – i’w benderfynu gan Fforwm Undebau Athrawon Gwynedd)
· 1 sedd i’w llenwi gan y Grŵp Ymgynghorol Dalgylchol Cynradd ac Arbennig (GYDCA)
· 1 sedd i’w llenwi gan Grŵp Penaethiaid Uwchradd Gwynedd (GSCU)
¾ Grŵp C - Aelodau Etholedig - cadw yn 7
¾ Cyfetholedig - Pwyllgor CYSAG i gadw’r hawl i gyfethol aelodau
(3 pleidlais sydd sef 1 i bob Grŵp, nid oes pleidlais gan yr aelodau Cyfetholedig).
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai cais yw’r adroddiad i adolygu cyfansoddiad CYSAG Gwynedd. Eglurwyd nad yw’r Cyngor wedi ystyried y cyfansoddiad ers 2019, ac fod newid wedi bod i’r undebau yn dilyn hyn. Mynegwyd fod angen i addasu’r Cyfansoddiad er mwyn cryfhau cynrychiolaeth athrawon ar y Pwyllgor.
Ychwanegodd y Swyddog Adnoddau Cynorthwyol fod CYSAG wedi ei greu o 3 grŵp – y cyntaf Cristnogaeth a Chredoau Eraill a oedd yn destun yr adolygiad yn ôl yn 2019, Yr ail grŵp sef Cynrychiolaeth Athrawon ac Phenaethiaid ac yna y grŵp olaf sef Aelodau Etholedig. Eglurwyd mai gofyn sydd yma i addasu yr ail grŵp, ganfod un o’r undebau bellach ddim yn bodol ac o ganlyniad fod angen addasu’r seddi. Gofynnwyd i’r 5 sedd gael ei rhannu fel ganlyn:
· 3 sedd i’w rhannu rhwng yr Undebau Athrawon a gydnabyddir gan Gyngor Gwynedd (NAS/UWT; UCAC ; NEU; ASCL a’r NAHT – i’w benderfynu gan Fforwm Undebau Athrawon Gwynedd)
· 1 sedd i’w llenwi gan y Grŵp Ymgynghorol Dalgylchol Cynradd ac Arbennig (GYDCA)
· 1 sedd i’w llenwi gan Grŵp Penaethiaid Uwchradd Gwynedd (GSCU)
Awdur: Buddug Mair Huws