Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwywyd a mabwysiadwyd Maes llafur Cytunedig Crefydd,
Gwerthoedd a
Moeseg yn unol ag argymhelliad yr Adran Addysg a Chyngor Ymgynghorol
Statudol ar Addysg Grefyddol (CYSAG) Gwynedd a’r Gynhadledd Maes Llafur
Cytunedig a Chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown
PENDERFYNIAD
Cymeradwywyd a mabwysiadwyd Maes llafur Cytunedig Crefydd, Gwerthoedd a
Moeseg yn unol ag argymhelliad yr Adran Addysg a Chyngor Ymgynghorol Statudol ar Addysg Grefyddol (CYSAG) Gwynedd a’r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig a Chanllawiau Llywodraeth Cymru.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad hwn yn amlygu y newid mewn maes llafur a fydd yn symud o Addysg Grefyddol traddodiadol i fod yn Addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Eglurwyd y bydd y maes llafur newydd yn cynnwys safbwyntiau athronyddol anghrefyddol yn ychwanegol i grefydd. Croesawyd y newid hwn gan amlygu ei fod yn gyfle i bobl ifanc adnabod yr hyn sydd yn gyffredin rhwng pawb ac i drafodaethau difyr am wahaniaethau a fydd yn hybu parch i bawb.
Ychwanegodd y Swyddog Adnoddau Cynorthwyol fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno yn sgil sefydlu Cwricwlwm i Gymru. Nodwyd fod dyletswydd cyfreithiol ar bob awdurdod yng Nghymru i gynnal Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig er mwyn adolygu’r maes llafur a bu i Wynedd ei gynnal ar 15 Chwefror 2022. Penderfyniad unfrydol y Gynhadledd oedd mabwysiadu Canllawiau Llywodraeth Cymru ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg.
Awdur: Buddug Mair Huws