Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 27/09/2022 - Y Cabinet (eitem 15)

15 ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ADDYSG pdf eicon PDF 635 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod wedi bod yn gyfnod prysur i’r adran ac fod yr adroddiad yn amlygu ystod o waith sydd yn cael ei wneud. Mynegwyd er fod ymgais yma i dynnu popeth ynghyd fod un thema i’r gweld drwy’r adroddiad sef lles, cyrhaeddiad a chynhwysiad. Eglurwyd fod y maes yma wedi bod yn bwysig erioed ond fod y pandemig wedi amlygu’r heriau sydd yn wynebu plant a pobl ifanc y sir. Pwysleisiwyd yn wyneb yr holl heriau fod yr Aelod Cabinet wedi ei rhyfeddu at wydnwch pobl ifanc ac fod yr adran yn ceisio lliniaru’r heriau ac i gefnogi y plant a pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial.

 

Tynnwyd sylw at rai cynlluniau fel a ganlyn, nodwyd fod pob ysgol yn gweithredu rhaglen Cyflymu Dysgu o ganlyniad i’r pandemig ac fod gwaith arbennig yn cael ei wneud i dargedu y cyfnod cyn ac ar ôl dysgu. Pwysleisiwyd fod y gwaith o drawsnewid y gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn parhau ac fod blaen arolwg parodrwydd yn dangos cynnydd cryf iawn ar draws y sir i’r paratoadau sydd wedi eu gwneud eisoes.

 

Ymfalchïwyd yn y gwaith sydd wedi ei wneud i’r Strategaeth Ddigidol gyda dyfais electroneg bellach wedi ei roi i bob plentyn o flwyddyn 3 i 11 er mwyn lleihau’r anghyfartaledd rhwng plant, sydd a’r rhyddid o fynd a’r dyfais adref gydag hwy. O ran y cynllun Cinio am Ddim mynegwyd fod y sir o flaen amserlen ac yn falch ei fod yn gweithio.

 

Amlygwyd balchder yn y gyfundrefn Addysg Drochi gan fod sawl ffynhonnell ariannol wedi galluogi’r adran i gomisiynu gwaith i greu tref rhithiol a fydd yn rhoi’r cyfle i blant siarad Cymraeg yn rhithiol cyn mentro i’w ddefnyddio yn y byd ‘go iawn’. Eglurwyd fod hyn yn gwneud y gwaith o ddysgu’r iaith yn fwy tebyg i gem yn hytrach na gwers.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Llongyfarchwyd pobl ifanc y sir ar eu canlyniadau TGAU a Lefel A.

¾     Holwyd o ran y Strategaeth Addysg Ddigidol os pob plentyn bellach wedi derbyn eu teclynnau. Cadarnhawyd eu bod wedi rhannu’r cyflenwad olaf dros yr wythnosau diwethaf.

¾     Cwestiynwyd os o ran y teclynnau yn rhan o’r Strategaeth Ddigidol os yw disgyblion yn cael mynd a hwy adref. Mynegwyd fod yr hawl i fynd a hwy adref yn hanfodol i’r cynllun i sicrhau fod pob plentyn yn cael yr un cyfle a cael y cyfle i wneud eu gwaith cartref heb unrhyw heriau.

¾     Holwyd sut mae’r adran Arlwyo a Glanhau yn dygymod gyda’r gofynion ychwanegol o ran darpariaeth cinio ysgol ar draws y sir. Nodwyd fod galw sylweddol uwch ond fod llawer o waith wedi ei wneud i sicrhau offer a cyfleusterau cywir. O ran staffio, nodwyd fod yr adran wedi gallu ymdopi ar galw hyn yma ond ei bod yn wych gweld teuluoedd yn manteisio ar y cyfle.

 

Awdur: Garem Jackson